Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 12 Hydref 2022.
Diolch yn fawr. Edrychwch, ar hyn o bryd, mae pob un ohonom yn gweithio ar sail adroddiad a ddatgelwyd yn answyddogol. Felly, y peth pwysig yw ein bod yn gadael i'r system a'r broses wneud eu gwaith. Nawr, gwn fod prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans yn gweithredu’n annibynnol ar y gwasanaeth ambiwlans awyr, a’r peth allweddol i ni ei wneud, yn gyntaf oll, yw darganfod, ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi’n briodol, a yw hyn yn gyfystyr â newid gwasanaeth, ac os ydyw, yna yn amlwg, byddwn yn ymgysylltu â'r cynghorau iechyd cymuned. Ac ar y pwynt hwnnw, byddant yn penderfynu a yw'r newidiadau arfaethedig yn cynrychioli newid gwasanaeth, ac os ydynt, bydd hynny'n sbarduno ymgynghoriad ffurfiol. Ac ar y pwynt hwnnw, wrth gwrs, bydd yn rhaid inni edrych ar y data. Ond gadewch imi ddweud wrthych am y data, gan fy mod wedi ymchwilio i hyn ac wedi gofyn pa ddata a ddefnyddiwyd: cawsom sicrwydd ynghylch trylwyredd y gwaith modelu data cynhwysfawr. Yr hyn a ddywedir wrthyf yw ei bod yn anodd inni gyhoeddi—