Capasiti'r GIG yng Ngogledd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:41, 12 Hydref 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o safon, sy’n ddiogel ac yn gynaliadwy i’r boblogaeth leol. Mae hyn yn cael ei wneud ar sail y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau a diweddaraf. Rŷn ni hefyd wedi darparu buddsoddiad ychwanegol i’w cefnogi.