Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 12 Hydref 2022.
Rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, bod un o bob wyth swydd nyrsio yn wag yn y gogledd. Rŷn ni hefyd yn gwybod, yn ôl cadeirydd y bwrdd iechyd, o'r 642 o feddygon teulu sydd gennym ni yn y gogledd, mae chwarter ohonyn nhw dros 65, a mae disgwyl i draean o'r 642 yna ymddeol yn y pum mlynedd nesaf. Ac rŷn ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, bod dim niferoedd digonol yn dod mewn i lenwi'r swyddi ar eu holau nhw. Mae 20 y cant o swyddi yn cael eu llenwi gan ddoctoriaid locum, dros dro, ar hyn o bryd, cyn bod y rhai roeddwn i'n sôn amdanyn nhw yn ymddeol.
Ydych chi felly'n derbyn mai un o fethiannau hanesyddol y Llywodraeth yma, a Llywodraethau blaenorol, yw'r methiant i gynllunio'n ddigonol ar gyfer gweithlu y dyfodol yn y sector yma, a chanlyniad y methiant hynny, wrth gwrs, wedyn, yw bod gennym ni lefelau staffio sy'n crebachu, ei bod hi'n costio mwy i'r pwrs cyhoeddus wedyn i lenwi'r gwagle yna, ac, wrth gwrs, bod e'n gadael mwy o bwysau a baich ar ysgwyddau y rhai sydd ar ôl?