2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 12 Hydref 2022.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cyfathrebu gyda chleifion o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ58519
Mae’r bwrdd iechyd yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu. Golyga hyn fod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau gweithredu uniongyrchol i ganolbwyntio ar wella cyfathrebu o fewn y bwrdd iechyd.
Diolch, Weinidog. Roeddwn yn teimlo bod rhaid imi godi hyn gyda chi o ystyried bod llawer o etholwyr wedi dod ataf yn ddiweddar i ddweud eu bod yn teimlo, pan fyddant hwy neu eu hanwyliaid yn yr ysbyty, mai ychydig iawn o wybodaeth a gânt. Mae'n fater gofid pellach mai 68 y cant yn unig o’r achosion a godais yn ddiweddar gyda’r bwrdd iechyd sydd wedi cael ymateb o fewn eu targed o 21 diwrnod gwaith. Nawr, mae swyddogion wedi egluro wrthyf fod oedi'n digwydd am fod clinigwyr yn methu ateb cwestiynau ar unwaith, neu efallai fod nodiadau meddygol wedi mynd ar goll, neu'n anodd dod o hyd iddynt. Mewn un achos, anfonais lythyr fis Tachwedd diwethaf, ac ni chafwyd ymateb tan fis Medi eleni oherwydd, yn y diwedd, fe'i hanfonwyd at yr ombwdsmon. Mae oncolegydd wedi ymddiheuro, gan ddweud y bu rhai problemau o ran dod o hyd i nodiadau clinigol ar gyfer y claf penodol hwnnw. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn gael ei ddwyn i fy sylw; mae'n digwydd yn rhy aml. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, Weinidog.
Felly, beth y gallwch ei wneud i sicrhau, ni waeth pa mor brysur yw ward, fod nodiadau’n cael eu hysgrifennu ar yr adeg briodol, fel bod y cleifion eu hunain neu eu teuluoedd yn gwybod yn union, ond hefyd, pan fydd cwynion yn cael eu gwneud, na chawn ein gadael i aros—pan ydym yn cynrychioli'r etholwyr hyn—am fisoedd lawer am nad yw'r nodiadau wedi'u hysgrifennu gyda diwydrwydd dyladwy, gan greu rhwystr yn y broses gwyno? Diolch.
Diolch. Wel, yn gyntaf oll, dylai clinigwyr fod yn ysgrifennu nodiadau; dylent fod yn ysgrifennu nodiadau ar adeg y driniaeth. Felly, nid oes unrhyw esgus dros hynny; mae hynny'n ofyniad. Ond o ran nodiadau'n mynd ar goll, credaf fod digideiddio'n rhan o’r ateb i hyn, a dyna pam fy mod wedi treulio cryn dipyn o fy amser yn ceisio sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr fod gennym GIG llawer mwy modern, ein bod yn buddsoddi yn y GIG. Ac rydym yn buddsoddi mwy y pen nag y mae Lloegr. Felly, rydym yn buddsoddi oddeutu £18 y pen, o gymharu ag £11.50. A bydd y rhaglen drawsnewid ddigidol honno’n sicrhau ein bod mewn sefyllfa lle gallwn wybod beth yn union sy’n digwydd, y bydd y systemau’n siarad â’i gilydd, ac yna, ni fydd gennym sefyllfa lle mae nodiadau’n mynd ar goll.