5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:05, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw. Lywydd, mae'n teimlo fel amser maith er pan basiodd y Senedd gynnig yn unfrydol dros gael pwyllgor i adolygu Rheoliadau Adnoddau Dŵr Llywodraeth Cymru (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar fyrder. A'r rheswm am hynny yw oherwydd ei bod hi'n amser maith ers hynny.

Roedd Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig o ddifrif ynglŷn â'r gwaith, ac fe gytunodd i gychwyn ar yr adolygiad yn ein cyfarfod cyntaf. Fodd bynnag, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, cafodd adroddiad y pwyllgor ei ohirio oherwydd adolygiad barnwrol i gyfreithlondeb y rheoliadau, mater a oedd allan o ddwylo'r pwyllgor. Roedd yr adolygiad barnwrol hwnnw'n bwysig i'r ddadl hon, nid yn unig i egluro pam y cymerodd gymaint o amser i gynhyrchu adroddiad y pwyllgor, ond hefyd i dynnu sylw at ba mor arwyddocaol yw'r rheoliadau hyn.

Er bod yr holl reoliadau y pleidleisiwn arnynt yn bwysig, mae'r rheoliadau llygredd amaethyddol hyn yn effeithio ar bethau sy'n greiddiol i gynnal bywyd yng Nghymru—cynhyrchu bwyd, ansawdd ein dŵr a'r amgylchedd ehangach. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd y rheoliadau'n lleihau llygredd yn ein hafonydd yn y pen draw, yn osgoi cyfnewid llygredd ac yn atal neu'n lleihau gollwng mwyfwy o faetholion i'r amgylchedd. Dywedodd y Gweinidog yn glir iawn fod y rheoliadau, drwy weithredu yn y modd hwn, yn cyflawni yn erbyn ystod eang o gyfrifoldebau Cymru ac yn darparu ymateb cyfannol i heriau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â chynhyrchiant amaethyddol.

Serch hynny, er mwyn gweithredu'r rheoliadau hyn, bydd gofyn i lawer o ffermwyr gyflawni gwaith cydymffurfio, a fydd yn cynnwys gwaith adeiladu sylweddol ar gost sylweddol, a gallai hynny fygwth eu hyfywedd. Felly, mae'n hanfodol fod y rheoliadau hyn yn gosod y cydbwysedd cywir rhwng gwarchod ein hamgylchedd naturiol a chynnal system reoleiddio ymarferol i ffermwyr Cymru.

Nawr, cyn imi redeg drwy'r adroddiad a'i argymhellion, rwyf am dynnu sylw at ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad a'i berthnasedd i'r ddadl hon. Roedd disgwyl ymateb Llywodraeth Cymru ar 14 Medi, ac eto fe'i gosodwyd yn y pen draw ar 5 Hydref, sef y dyddiad terfynol olaf ar gyfer ei gynnwys ar agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw. Fe wnaeth yr oedi hwn amharu'n ddifrifol ar allu Aelodau i graffu ar ymateb y Llywodraeth, ac o'r herwydd mae'n effeithio ar y ddadl hon. Felly, rwy'n mawr obeithio y bydd pob Gweinidog yn y dyfodol yn ystyried pwysigrwydd ymateb i adroddiadau pwyllgorau'r Senedd mewn modd amserol, fel y gallwn gael dadleuon cwbl wybodus ar adroddiadau pwyllgorau'r Senedd.

Nawr, lansiodd Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig ymgynghoriad ar y rheoliadau, a gynhaliwyd dros haf 2021, ac fe wnaeth ystod eang o randdeiliaid—gan gynnwys pysgotwyr, ffermwyr a sefydliadau amgylcheddol—ymateb i'r ymgynghoriad. Ni fydd yr Aelodau'n synnu clywed bod y rheoliadau'n ddadleuol. Mewn ymateb i'n hymgynghoriad, mae ffermwyr wedi cyfeirio atynt fel rhai didostur a chosbol, ac fe wnaethant fynegi pryderon y byddant yn afresymol o ddrud i'w gweithredu ac y gallant achosi i ffermydd fynd i'r wal.

Ar y llaw arall, cawsom dystiolaeth gan sefydliadau amgylcheddol a physgotwyr a oedd yn croesawu'r rheoliadau, gan ddadlau ei bod yn hen bryd eu cael. Fe wnaethant ddweud wrthym nad yw'r system bresennol yn atal y llygrwyr amaethyddol gwaethaf, a bod gweithredu ar ffurf y rheoliadau hyn yn mynd rywfaint o'r ffordd i leihau'r llygredd yn ein hafonydd. Felly, fel pwyllgor, roeddem yn ymwybodol iawn fod angen i'r rheoliadau daro'r cydbwysedd cywir a'u bod mor effeithiol â phosibl. Pan ddaeth yr adolygiad barnwrol i ben, llwyddodd y pwyllgor i barhau gyda'n hymchwiliad a gosod ein hadroddiad.

Lywydd, mae'n cynnwys 10 argymhelliad, ac am fod yr amser yn gyfyngedig y prynhawn yma, hoffwn ganolbwyntio ar dri maes penodol: cymorth ar gyfer cyflawni, rhanddirymiadau, a phryderon ynghylch ffermio yn ôl y calendr. Yn gyntaf, un o'r materion mwyaf dybryd a godwyd oedd y gost i ffermwyr o gyflawni'r rheoliadau hyn, ac fe'i gwnaed yn eithaf clir i'r pwyllgor y gallai ffermydd fynd i'r wal. Felly, roeddwn yn falch o weld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi £20 miliwn ychwanegol tuag at helpu ffermwyr i gyflawni'r rheoliadau hyn, fel y nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig ddaeth gydag ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor. Rwy'n falch hefyd o weld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu dadansoddiad manwl i'r pwyllgor o'r darpariaethau a wneir, gan gynnwys cymorth ariannol uniongyrchol a chyllid ychwanegol i wasanaethau cynghori. Ac wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gall y Gweinidog gadarnhau pryd y gall y pwyllgor ddisgwyl yr wybodaeth honno.

Yn yr un modd, mae angen cefnogaeth i gyrff cyhoeddus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi amcangyfrif y byddant hwy angen 60 o staff ychwanegol i ddarparu'r isafswm llwyr, ac o bosibl fod angen dros 200 o aelodau staff i ddarparu gorfodaeth lawn mewn perthynas â'r rheoliadau hyn. Wrth gwrs, bydd trefn orfodi dameidiog heb ddigon o adnoddau yn rhoi'r gwaethaf o'r ddau fyd i ni, ac roeddwn yn poeni braidd wrth ddarllen yn ymateb y Llywodraeth nad yw'r cytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer y rheoliadau wedi ei gytuno eto gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd angen amser ar Cyfoeth Naturiol Cymru i recriwtio a hyfforddi staff ychwanegol, ac felly mae'n hanfodol fod cytundeb lefel gwasanaeth yn cael ei roi ar waith cyn gynted â phosibl. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi diweddariad i ni ar ei ddatblygiad ac unrhyw wybodaeth bellach sydd ganddi am ba mor hir y gallai gymryd i Cyfoeth Naturiol Cymru fod mewn sefyllfa i allu gorfodi'r rheoliadau hyn.

Lywydd, clywodd y pwyllgor bryderon hefyd ynghylch rhanddirymiadau. Roeddem yn pryderu y byddai tynnu'r rhanddirymiad ar gyfer ffermydd glaswelltir cymwys yn ôl yn rhoi ffermwyr Cymru dan anfantais gystadleuol, ac felly argymhellwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn ailgyflwyno'r rhanddirymiad a oedd yn caniatáu i ffermydd glaswelltir cymwys wasgaru hyd at 250 kg yr hectar o nitrogen. Rhybuddiodd undebau ffermio y gallai'r penderfyniad i beidio â chynnwys y rhanddirymiad alw am ddadstocio ar lawer o ffermydd Cymru, gan effeithio ar hyfywedd ffermydd, màs critigol o fewn y gadwyn gyflenwi a chyflogaeth, ac y gallai'r gyfradd is o 170 kg yr hectar arwain at gynhyrchu alltraeth mewn gwledydd sydd â safonau is. Felly, rwy'n falch o weld, yn y datganiad ysgrifenedig i gyd-fynd ag ymateb y Llywodraeth, y bydd ffermydd Cymru yn gallu gwneud cais yn awr am drwydded i wasgaru mwy o nitrogen. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi sicrwydd i ffermwyr Cymru heddiw na fydd y mesur hwn yn arwain at fiwrocratiaeth bellach iddynt.

Yn olaf, rwyf am sôn am ffermio yn ôl y calendr. Mae Rhan 5 o reoliadau Llywodraeth Cymru'n pennu cyfnodau gwaharddedig, pan fo gwasgaru wedi'i wahardd. Ac er bod eithriadau i rai mathau o ddaliadau a phridd, bydd y cyfnod gwaharddedig yn para o fis Hydref tan fis Ionawr, gyda rhai cyfyngiadau pellach yn para tan ddiwedd mis Chwefror. Clywodd y pwyllgor ddadleuon cryf am bwysigrwydd hyblygrwydd i ffermwyr ar gyfer pryd i wasgaru slyri, ac fe gafodd hynny ei atgyfnerthu i ni mewn gwirionedd yn ystod taith ein pwyllgor i Ganolfan Ymchwil Amaeth Gelli Aur yn sir Gaerfyrddin. Roeddem eisoes wedi clywed pethau mawr am eu gwaith ar brosesu slyri a defnyddio technoleg i benderfynu ar yr amser gorau i wasgaru. Yn ystod yr ymweliad, dangoswyd offer i ni sy'n cefnogi ap y bu'r ganolfan yn ei ddatblygu. Roedd yn gyfuniad trawiadol o orsaf dywydd a synwyryddion sy'n monitro'r amodau, lle mae'r wybodaeth a gesglir yn cael ei bwydo i mewn i ap sy'n prosesu'r data ac yn rhoi statws coch, oren neu wyrdd i ffermwyr ar gyfer gwasgaru slyri. Cawsom wybod bod y system wedi ei phrofi yn ystod cyfnod gwaharddedig 2021-22, a'r canfyddiadau oedd bod yr ap yn dangos statws gwyrdd ar gyfer gwasgaru trwy fis Chwefror a mis Mawrth, sy'n golygu bod y tywydd a'r amodau tir yn iawn ar gyfer gwasgaru slyri. Fodd bynnag, bron cyn gynted ag y daeth y cyfnod gwaharddedig i ben, fe wnaeth yr ap ddynodi bod yr amodau'n goch, gan nodi nad oeddent yn addas ar gyfer gwasgaru slyri. Wrth gwrs, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o ba mor anrhagweladwy y gall y tywydd fod, felly mae'n hanfodol fod ffermwyr yn cael newid i system a gefnogir gan dechnoleg yn seiliedig ar y byd go iawn, amodau byw, nid system galendr sy'n seiliedig ar gyfartaledd tymhorol, a hynny cyn gynted â phosibl.

Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu unrhyw argymhellion amgen addas sy'n defnyddio technoleg yn hytrach na chyfnodau gwaharddedig ar gyfer gwasgaru slyri ac er fy mod yn croesawu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn agored i awgrymiadau newydd, rwy'n siomedig fod eu hymateb yn rhoi'r baich cyfrifoldeb ar y gymuned ffermio yn hytrach na bod y Llywodraeth yn mynd ati'n rhagweithiol i fynd ar drywydd dewisiadau technolegol eraill yn lle ffermio yn ôl y calendr. Felly, rwy'n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog roi ystyriaeth bellach i hyn.

Lywydd, mae adroddiad y pwyllgor yn cwmpasu popeth o ddata ansawdd dŵr i orfodaeth ac ymgorffori'r rheoliadau mewn safonau gofynnol cenedlaethol, ac rwy'n annog pob Aelod yn y Siambr i ddarllen ein hadroddiad. Rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu effeithiolrwydd mesurau technolegol amgen, i fod yn gwbl dryloyw ynghylch y cymorth cyllido sydd ar gael i ffermwyr, ac i ddarparu sicrwydd bod yna adnoddau ac arweiniad digonol i Cyfoeth Naturiol Cymru allu monitro a gorfodi'r rheoliadau hyn. Fel pwyllgor, rydym yn bwriadu parhau i adolygu'r rheoliadau hyn yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf i sicrhau eu heffeithiolrwydd, ac felly, ar y nodyn hwnnw, Lywydd, edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau yn y ddadl hon. Diolch.