Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 12 Hydref 2022.
Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma. Mae polisi parth perygl nitradau Llywodraeth Cymru, pwnc yr adroddiad hwn, wedi bod yn bolisi blaenllaw ond dadleuol gan y Llywodraeth hon a Llywodraethau blaenorol yng Nghymru. Felly, nid oedd ond yn iawn i'r Senedd ofyn i'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig adolygu'r rheoliadau hyn ar frys. Gwn fod y Gweinidog wedi bod yn awyddus i bwysleisio nad parthau perygl nitradau yw'r rhain, ond gyda Rhannau 2, 3, 4, 5 a 7 o'r rheoliadau adnoddau dŵr yr un fath air am air â pholisi parth perygl nitradau, mae arnaf ofn, os yw'n edrych fel hwyaden ac yn cwacian fel hwyaden, yna hwyaden yw hi.
Gan ganolbwyntio ar yr adroddiad ei hun, cefais fy siomi wrth weld Llywodraeth Cymru'n gwrthod argymhelliad 1 yn y papur hwn,
'Dylai Llywodraeth Cymru ailgyflwyno’r rhanddirymiad a oedd yn caniatáu i
ffermydd glaswelltir cymwys daenu hyd at 250 kg/ha o nitrogen.'
Nawr, rwy'n sylweddoli fod hwn wedi ei wrthod ar y sail fod datganiad ar y cyd yr wythnos diwethaf gyda Phlaid Cymru, fel eich partner cydweithio, wedi disodli argymhelliad 1, ond mae cynnwys y datganiad hwnnw'n creu sawl pryder i'r diwydiant ac i minnau. Er gwaethaf y naratif a gafodd ei hyrwyddo, nid oedd y datganiad yn cynnig unrhyw newid polisi i'n cymuned amaethyddol, yn wahanol i'r hyn y byddai argymhelliad 1 wedi'i gyflawni. Ac unwaith eto, bydd yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd ar gynllun trwyddedu posibl yn gweld yr un dystiolaeth yn cael ei chyflwyno a'r un dadleuon yn cael eu trafod, felly rwy'n gobeithio'n fawr na welwn yr un hen ganlyniad yn cael ei gyflawni. Oherwydd nid oes dim wedi'i warantu o ran rhanddirymiad, a gadewch inni beidio ag anghofio bod terfyn rhanddirymiad is yn rhoi ffermwyr Cymru dan anfantais gystadleuol yn erbyn ffermwyr eraill ar draws y DU, fel y disgrifiodd Cadeirydd y pwyllgor, Paul Davies, yn gynharach.
Nodaf hefyd gyda diddordeb fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 3 o'r adroddiad,
'Dylai’r Gweinidog amlinellu i’r Pwyllgor ei hystyriaethau o’r effaith y gallai’r
Rheoliadau hyn ei chael ar y system gynllunio'.
Er iddi dderbyn yr argymhelliad, fe fethodd ymateb Llywodraeth Cymru gydnabod y ffaith y bydd yn rhaid cyflwyno a phrosesu nifer fawr o geisiadau cynllunio er mwyn i ffermydd fodloni rheoliadau Llywodraeth Cymru. Yn wir, er mai barn Llywodraeth Cymru yw nad yw gofynion seilwaith y rheoliadau'n wahanol iawn i linellau sylfaen rheoleiddiol sy'n bodoli eisoes, nid yw eich ymateb chi, Weinidog, yn cydnabod nad oes gan ffermydd teuluol ar raddfa fach seilwaith yn ei le ar hyn o bryd er mwyn cadw at y rheoliadau hyn. O'r herwydd, bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid cyflwyno ceisiadau cynllunio newydd ar gyfer seilwaith, gyda'r perygl y bydd y ceisiadau hyn yn boddi awdurdodau lleol mewn gwaith, gydag adrannau cynllunio nifer ohonynt eisoes o dan straen aruthrol. Ar ôl darllen eich ymateb, nid wyf yn hyderus eich bod yn gwbl ymwybodol o'r effaith a'r ffordd y bydd y ceisiadau hyn yn llyffetheirio awdurdodau lleol.
Ac yn olaf, os caf droi at argymhelliad 6, cefais fy siomi o glywed nad ydych wedi derbyn yr argymhelliad hwn yn llawn. Pwrpas yr argymhelliad oedd dangos y pwysau y bydd achos TB mewn gwartheg yn ei achosi wrth lynu wrth eich rheoliadau. Ni chafwyd eglurhad ynglŷn ag a fydd ffermydd gydag achosion o TB yn eu buchesi yn cael mynd y tu hwnt i'r terfyn nitrad o 170 kg yr hectar. Dan yr amgylchiadau hyn, gallai ffermydd o dan gyfyngiadau TB nad ydynt yn gallu symud gwartheg weld nifer eu stoc yn cynyddu'n sylweddol, ond eto nid oes eglurhad ynglŷn ag a fu ystyriaeth o hyn gyda'r rheoliadau hyn. Drwy gadw at reoliadau TB, drwy ddilyn llythyren y gyfraith ar symudiadau gwartheg pan geir achos o TB, gallai ffermwyr dorri'r rheoliadau dŵr yn anfwriadol. Ni all hyn fod yn amryfusedd, felly rwy'n ceisio eglurder na fydd y ffermydd hyn yn cael eu cosbi'n annheg.
Rwy'n cofio bod yn ohebydd papur newydd ifanc, flynyddoedd maith yn ôl, yn trafod a fyddai parth perygl nitradau'n cael ei gyflwyno drwy sir Benfro neu drwy Gymru gyfan. Nawr, oddeutu chwech neu saith mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i drafod a dadlau manylion y polisi hwn. Gobeithio y gwnewch chi ailystyried a derbyn pob un o'r 10 argymhelliad a gyflwynwyd gan y pwyllgor, gan eu gweithredu'n llawn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd i ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor, Paul Davies, pawb a roddodd dystiolaeth a'r staff clercio. Diolch, Lywydd.