Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 12 Hydref 2022.
Diolch i'r pwyllgor, y Cadeirydd a'r holl staff, fel y dywedodd Sam Kurtz, am eu gwaith trylwyr iawn yn gwneud yr ymchwil yma. Mae'n rhaid dechrau drwy gydnabod ein bod ni yn gweld llawer gormod o achosion o lygredd dŵr yn ein dyfroedd, ac mae’n rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb a chwarae eu rhan—y ffermwyr, ie, ond hefyd y cwmnïau dŵr, cwmnïau adeiladu a phawb arall. Ond, mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod rôl y diwydiant amaethyddol yn ein cymunedau gwledig, o ran ei gyfraniad gwerthfawr i’r economi leol, ei gyfraniad amhrisiadwy i ddiwylliant a chymuned, heb sôn wrth gwrs am ei rôl ganolog, sef cynhyrchu bwyd maethlon o ansawdd.
Mae’r argymhelliad cyntaf un, ynghylch y derogation, yn mynd at galon y broblem. Fel y dywed yr undebau amaethyddol yn eu cyfraniad, byddai'r rheoliadau newydd wedi arwain at y rhan fwyaf o ffermwyr gwartheg Cymru yn gorfod stocio llai, gan effeithio ar eu hyfywedd, yn ogystal â hyfywedd busnesau eraill, megis ffatrïoedd llaeth, ac yn y blaen.
Yn yr adroddiad, rydym ni’n gweld Aled Jones o'r NFU a’r FUW yn rhybuddio y byddai’r rheoliadau newydd, fel ag yr oedden nhw, yn hynod o niweidiol, yn enwedig i ffermydd bach ucheldir Cymru. Heb air o gelwydd, roeddwn i yn gweld ffermwyr yn fy etholaeth i yn dweud eu bod nhw am gael gwared ar wartheg yn llwyr o’r ucheldiroedd. I rai, roedd hynny am olygu eu bod nhw yn mynd allan o ffermio yn gyfan gwbl, i eraill roedd yn golygu eu bod nhw am stocio mwy o ddefaid ar y mynydd. Rŵan, yr eironi wrth gwrs efo hynny ydy y byddai tynnu gwartheg i ffwrdd o’r ucheldir a rhoi defaid yn eu lle yn arwain at fwy o niwed bioamrywiaeth. Mae’r RSPB a chyrff eraill yn dadlau bod angen gwartheg i bori ein hucheldiroedd, ac mae hyn yn cael ei nodi yn yr adroddiad.
Ond yn ogystal â hyn, byddai gorfodi y newid yma mor sydyn yn gwneud yr un peth i’n cymunedau amaethyddol ag y gwnaeth Margaret Thatcher i’n cymunedau glofaol, sef creu niwed parhaol, a hynny dros nos. Dyna pam fod y cyhoeddiad diweddar rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth ynghylch oedi cyflwyno y cam nesaf ac edrych i gyflwyno system drwyddedi i ffermwyr, er mwyn iddyn nhw fedru lledaenu hyd at 250 kg o nitrogen ar eu tir, i’w groesawu. Nid yn unig y bydd yn sicrhau parhad asgwrn cefn ein cymunedau gwledig a phob dim sydd ynghlwm â hynny, yn economaidd ac yn ddiwylliannol, ond bydd hefyd o fudd sylweddol i fioamrywiaeth yng Nghymru, ac mae hynny i’w groesawu yn gynnes.
Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod y costau o adeiladu yr isadeiledd angenrheidiol yn anferthol, ac yn cynyddu, ac mae’r ail argymhelliad yn ei gwneud yn glir bod angen tryloywder ynghylch pa gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr. Mae’n amlwg nad oedd y swm a ddynodwyd yn wreiddiol yn ddigon o bell ffordd, fel roedd tystiolaeth Gareth Hughes o’r FUW yn nodi. Felly, mae’n dda o beth gweld bod y Llywodraeth, yn y cytundeb efo Plaid Cymru, wedi sicrhau £20 miliwn yn ychwanegol er mwyn ceisio sicrhau bod gan ffermwyr yr isadeiledd ac adnoddau angenrheidiol. A fydd o’n ddigon? Hwyrach ddim, ond mae’n llawer iawn gwell na’r sefyllfa roeddem ni ynddi ynghynt.
Yn olaf, mae’r adroddiad yn cyfeirio at yr angen i ffermwyr adeiladu neu wella storfeydd slyri. Rŵan, unwaith eto, dowch i Ddwyfor Meirionnydd ac fe wnaf i eich cyflwyno chi i ffermwyr oedd yn trio am ganiatâd cynllunio i adeiladu storfeydd slyri newydd, ond oedd yn cael trafferthion cael caniatâd cynllunio. Mae’n hawdd iawn dweud ar bapur fod angen gwneud hyn, llall ac arall, ond mae’n fater gwahanol iawn gweithredu'r uchelgeisiau hynny yn y byd go iawn. Felly, wrth ystyried argymhelliad 3, mae’n dda gweld bod y Llywodraeth, yn eu cytundeb efo Plaid Cymru, am sicrhau dwy flynedd yn ychwanegol, yr amser yna i alluogi y gwaith yma i fynd rhagddo, a sicrhau y just transition hwnnw sydd angen ar ffermwyr. Diolch yn fawr iawn.