Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 12 Hydref 2022.
Dwi'n mynd i gychwyn drwy gydnabod a chroesawu'r hyn a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru a'r Llywodraeth yr wythnos diwethaf—ddim cweit yn taro nodyn mor sinigaidd, efallai, ag un neu ddau. Dyw e ddim, wrth gwrs, yn ddiwedd proses, ond mae e'n cadw'r drafodaeth yn fyw ac mae e'n golygu bod yna newid agwedd wedi bod. Y dewis arall oedd ein bod ni jest yn ei adael e i fynd a chario ymlaen. Felly mae angen cydnabod, dwi'n meddwl, bod yna waith aruthrol wedi digwydd ar y meinciau yma i ddod i'r pwynt yma ac i o leiaf nawr gyflwyno'r cyfle y bydd o leiaf rhai o ffermwyr Cymru yn cael trwydded a bod popeth yn cwympo i'w le er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu chwalu 250 kg yr hectar o nitradau ar y tir.
Mae'r £20 miliwn, wrth gwrs, ar ben beth sydd eisoes wedi ei ymrwymo, ond does neb yn dweud bod hynny'n mynd i dalu am bopeth. Ond 'rargol, mae e'n well na beth oedd yna cyn hynny, felly peidiwch â bod mor negyddol a pheidiwch â bod mor sinigaidd. Ond dŷn ni ddim yn cael ein dallu gan y ffaith bod yna lot rhagor o waith i'w wneud. Un o'r pethau dwi eisiau cyfeirio ato fe hefyd yw bod yna edrych eto ar asesiad effaith rheoleiddiol. Dwi'n meddwl bod hwnna yn arwyddocaol. Oherwydd dŷn ni mewn cyd-destun gwahanol—mae'r creisis costau byw, dŷn ni'n gwybod bod costau mewnbynnau yn y diwydiant wedi mynd trwy'r to. Mae costau adeiladu, inflation adeiladu, i gwrdd â'r isadeiledd sydd ei angen yn fyd cwbl newydd. Ac felly, mae hi'n berffaith iawn, dwi'n meddwl, bod yr asesiad yna yn cael ei edrych arno eto, fel ei fod e yn adlewyrchu'r cyd-destun newydd—Wcráin, a phopeth arall, a diogelwch bwyd—sydd angen ei gadw mewn cof.
Ond mae yna gwestiynau difrifol a gofidiau real iawn yn dal i fod, ac mae'r Cadeirydd, wrth gwrs, wedi cyfeirio at un ohonyn nhw, sef yr ymlyniad yma at y cyfnodau caeedig—y closed periods yma. Dwi wedi codi hyn gyda chi yn y gorffennol, Weinidog; ddwy flynedd a mwy yn ôl, fe wnes i gyfeirio at y ffaith bod rhai o amgylcheddwyr mwyaf Prydain yn dweud bod ffermio'n ôl y calendr yn wrthgynhyrchiol, yn counterproductive. Ac fe wnaethoch chi gytuno eich bod chi'n stryglo â'r approach yna a chyda cyfiawnhau'r approach yna, a chydnabod ar y pryd nad yw e, fel y clywsom ni, yn cymryd ystyriaeth o'r ffaith y gallai fod dyddiau yn y cyfnod agored sy'n gwbl anaddas ar gyfer chwalu tail, a dyddiau yn y cyfnod caeedig fyddai yn addas ar gyfer gwneud hynny. Ond, wrth gwrs, dyna rŷch chi wedi ei ddewis i'w ymgorffori yn y rheoliadau.
Felly, wrth ymateb i'r ddadl, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni beth wnaeth eich perswadio chi bod hynny yn dderbyniol. Beth newidiodd eich meddwl, yn erbyn, fel dwi'n dweud, rhai o amgylcheddwyr mwyaf Prydain, bod edrych ar galendr i weld os yw'r amgylchiadau'n ffafriol yn well nag edrych drwy'r ffenest? Dyna mae'r rheoliadau yn ei ddweud. Ac mae'ch ymateb chi i'r argymhelliad yna—argymhelliad 8 yw e, os dwi'n cofio'n iawn—yn cyfeirio at dechnoleg, a bod technoleg yn cael ei ddatblygu, a'n bod ni o fewn cyrraedd i fabwysiadu system, fel y clywon ni eto, sy'n llawer mwy amser real—real time—ac yn cyrraedd trachywiredd—precision—o gae i gae. Mae'r dechnoleg yna, ac mae e o fewn dim i fod yn dechnoleg fyddai modd i'w rolio fe allan ar draws y wlad.
Ond, wedyn, yn eich ymateb, rŷch chi'n dweud y gwnewch chi ystyried hyn yn ystod yr adolygiad pedair blynedd. Wel, ydy hynny'n golygu eich bod chi'n mynd i orfodi'r sector i fuddsoddi mewn isadeiledd, i wario miliynau ar filiynau o arian cyhoeddus—a'u harian nhw eu hunain—ac wedyn efallai, mewn dwy flynedd, dweud, 'O, mae gyda ni dechnoleg nawr, bydd dim angen lot o hwn'? Mae wir angen i chi ailystyried, dwi'n meddwl, y pwynt yna.