Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 12 Hydref 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Llywodraeth, rŷn ni'n cydnabod yr effaith bositif y mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gallu ei gael ar bobl ifanc. Dyna pam rydym ni, yn ystod y blynyddoedd o gyni a orfodwyd ar Gymru gan y Llywodraeth glymblaid, wedi ceisio diogelu'r lwfans, yn wahanol i Loegr, lle gwnaed i ffwrdd ag ef yn 2011. A ninnau nawr, unwaith eto, yn wynebu cyfnod ariannol anhygoel o anodd, ydyn, rydyn ni’n dal i fod wedi ymrwymo yn unol â’n rhaglen lywodraethu i gynnal y lwfans. Ochr yn ochr â'n hymrwymiadau eraill i bobl ifanc, ac ar gost flynyddol o £17 miliwn, mae’r lwfans cynhaliaeth addysg yn ei wneud e’n bosib i fwy na 18,000 o bobl ifanc barhau mewn addysg ôl-orfodol bob blwyddyn. Mae bron i un o bob tri—31 y cant—o fyfyrwyr llawn amser sy’n bodloni’r meini prawf cymwys o ran oed yn cael cymorth trwy’r lwfans cynhaliaeth addysg.
Mae cyfradd taliadau presenoldeb y lwfans cynhaliaeth addysg, sef £30 yr wythnos, yn gyson â’r hyn sydd ar gael yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Wrth gwrs, dwi’n deall bod yna bryderon, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng, nad yw’r lwfans cynhaliaeth addysg wedi cynyddu ers peth amser. Dwi’n cydnabod gwaith Sefydliad Bevan ac yn parhau i groesawu eu safbwyntiau o ran lle y gallwn ni wella ymhellach ein hymrwymiad i bobl ifanc. Dwi’n sylweddoli bod pobl ifanc hefyd yn teimlo straen ariannol yr argyfwng costau byw sy’n bodoli ar hyn o bryd. Ond ar adeg pan fo'n rhaid inni i gyd fynd i’r afael â’r pwysau newydd ar wariant, dyw hi wir ddim yn bosib cynyddu cyfradd y lwfans cynhaliaeth addysg o £30 i £45. Rydyn ni’n amcangyfrif y byddai gwneud hynny yn golygu £8.5 miliwn yn rhagor y flwyddyn. Hefyd, er fy mod i’n deall nad yw’r trothwy ar gyfer ystyried aelwyd person ifanc yn gymwys i gael y lwfans wedi newid, byddai’r £8.5 miliwn ychwanegol a fyddai ei angen i gynyddu’r gyfradd yn codi i fwy na £15 miliwn y flwyddyn pe baem ni’n cyflwyno’r newidiadau hyn.