Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 19 Hydref 2022.
Yn hollol, Mabon, mae gennym arferion yn datblygu yn y sector rhentu sy’n amlwg yn gosod rhwystrau i bobl sydd am rentu. Yn amlwg, yr hyn yr hoffem ei wneud yw adeiladu llawer o gartrefi cymdeithasol yn gyflym. Rwyf newydd gael sgwrs gyda’r meinciau gyferbyn am y ffactorau macro-economaidd sy’n ein hatal rhag adeiladu mor gyflym ag yr hoffem, ond hoffwn ddweud ein bod wedi rhoi’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad tuag at hynny, drwy’r grant tai cymdeithasol a chyda’n cynghorau. Felly rydym yn dal i’w hadeiladu, ond mae’r gyfradd ymyrraeth sy'n rhaid inni ei wneud bellach yn cynyddu’n sylweddol ar gyfer pob tŷ unigol. Mae’r arian yr ydym wedi’i neilltuo, er ei fod yn fwy nag erioed, wedi’i erydu gan chwyddiant wrth gwrs, sydd wedi cyrraedd ffigurau dwbl heddiw, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae’n gwbl amlwg, onid yw, fod y darlun macro-economaidd yn erydu’r pŵer prynu sydd gennym yma yng Nghymru gydag incwm sefydlog, i bob pwrpas.
Ond rydym yn gweithio gyda'r cynghorau lleol i sicrhau eu bod yn gallu rhoi gwarantau a bondiau ar gyfer tenantiaid sydd yn y sefyllfa honno yn y sector rhentu preifat. Rydym yn gweithio gyda landlordiaid ein sector preifat, y gallwn gysylltu â hwy drwy Rhentu Doeth Cymru, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o hynny a’u bod yn fodlon ac yn gallu derbyn gwarantau a bondiau gan yr awdurdod lleol. Nid yw hynny ar gael i bawb, ond mae'n swnio fel pe bai eich etholwr ar y rhestr tai cymdeithasol beth bynnag, ac y byddent yn gymwys.
Yn amlwg, rwy’n dweud yn gyson wrth y meinciau gyferbyn y byddai cynyddu’r lwfans tai lleol yn unol â chwyddiant, fel y dylent fod wedi’i wneud, yn helpu’r sefyllfa yr ydych ynddi yn sylweddol. Rydym yn gweithio gyda landlordiaid sector preifat hefyd i sicrhau bod cymaint ohonynt â phosibl yn cymryd rhan yng Nghynllun Lesio Cymru, ac mae hynny’n tyfu'n gyflym.
Gwn ein bod yn cael sgwrs am lefelau rhent a chapio rhenti, ac yn y blaen, ond o ddifrif, rydym yn gwylio'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban ac Iwerddon gyda chryn ddiddordeb. Fe wyddoch fod y ddwy Lywodraeth wedi cael eu bygwth â chamau cyfreithiol dros yr hyn sydd wedi digwydd. Byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn cael sgwrs â landlordiaid sector preifat mewn gwahanol ardaloedd o Gymru i ddeall beth yw eu hawydd i aros yn y farchnad, yn enwedig pe bai rhenti'n cael eu capio. Felly, os na all landlord gael y lefel honno o rent, beth fyddant yn ei wneud â’r tŷ? Y broblem yw, mewn marchnad dai anwadal a chyda chyfradd llog o'r fath, y tebygrwydd yw y bydd landlord yn gwerthu’r tŷ, gan y gallant gael lefelau tebyg o incwm drwy fuddsoddi’r arian yn y marchnadoedd, gan fod chwyddiant uchel yn amlwg yn helpu pobl sy'n cynilo, ac ond yn difreinio benthycwyr.
Felly, rydym o ddifrif yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng helpu pobl i symud i mewn i'r tai hyn fel y gallant gael to uwch eu pennau, gyda'r holl ffactorau sydd gennym o ran cynyddu nifer y tai cymdeithasol mor gyflym ag y gallwn, ond rwyf hefyd yn awyddus i gymell y sector preifat i aros yn y farchnad, felly gweithio gyda hwy i wybod beth fyddai’n helpu. Er enghraifft, bydd yr Aelodau’n clywed gennym cyn bo hir am bethau fel sut y gallwn gymell y sector rhentu preifat i sicrhau bod eu cartrefi yn bodloni safonau ansawdd tai Cymru fel bod tenantiaid yn talu biliau llawer is pan fyddant yn symud i mewn i'w cartref. Mae a wnelo â mwy na'r rhenti uchel yn unig, mae lefel y gwariant ar ynni ac ati'n bwysig iawn.
Rwy'n cydymdeimlo â phobl ledled Cymru sydd yn y sefyllfa honno. Mae'n rhaid inni fynd ati'n gyflym i adeiladu llawer o'r cartrefi newydd hynny, ond mae gwir angen inni weithio gyda'n sector rhentu preifat hefyd i sicrhau sefydlogrwydd yn y farchnad a lefel weddus o elw wrth ddarparu cartrefi i bobl. Byddwn yn fwy na pharod i edrych ar yr enghraifft benodol, serch hynny, os hoffech ysgrifennu ataf.