Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 19 Hydref 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am gychwyn drwy sôn am rywbeth sydd yn gyffredin drwy Gymru, ond gan ddefnyddio enghraifft o fy etholaeth i. Mae un o fy etholwyr i yn rhiant sengl, sydd wedi gorfod symud i mewn gyda'i chwaer, oherwydd bod ei chyn-bartner wedi ei throi hi allan o'i thŷ. Mae hi rŵan yn byw mewn tŷ tair ystafell wely, ond mae yna naw ohonyn nhw'n byw yn yr eiddo. Mae hi ar restr y cyngor, ond does yna ddim tai cymdeithasol ar gael, felly mae hi'n chwilio am dŷ rhent preifat. Yn anffodus, mae hi wedi cael ei phrisio allan o'r farchnad rhentu preifat. Y rhataf mae hi'n medru ei ffeindio yn yr ardal ydy £700 y mis. Ond mae'n rhaid iddi brofi bod ganddi incwm o dair gwaith y rhent er mwyn i'r asiant a'r landlord ei osod o iddi. Mae hynna'n £25,000 y flwyddyn, sy'n fwy na chyflog cyfartalog fy etholaeth i. Does ganddi ddim gobaith o ddangos bod ganddi incwm o £2,100 y mis, ac mae'n debyg fod yr arfer yma o ofyn am gyflog tair gwaith y rhent yn arfer cyffredin iawn yn y sector. Mae sôn ei bod hi'n medru cael guarantor, ond eto mae angen teulu efo pocedi dyfnion iawn i wneud hynny. Ydych chi'n cytuno y dylid dirwyn yr arfer yma o roi rhwystrau yn ffordd pobl ar incwm isel rhag cael mynediad i'r sector rhent i ben, a pha gamau sy'n cael eu cymryd gennych chi er mwyn cael gwared ar y rhwystrau yma i rentwyr incwm isel? Diolch.