Targedau Ailgylchu

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:10, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Gyda phleser. Roedd ein cyfradd ailgylchu trefol yn 65.4 y cant yn 2020-21, ein canran uchaf erioed, sy'n fwy na'r targed o 64 y cant. Mae'r llwyddiant hwn, er gwaethaf yr holl heriau a ddaeth yn sgil y pandemig, yn dyst i waith caled ein hawdurdodau lleol ac yn enwedig eu staff rheng flaen, a sicrhaodd y gallai pobl Cymru barhau i ailgylchu fel y maent wedi hen arfer ei wneud.