Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 19 Hydref 2022.
Mae hawliau datblygu a ganiateir yn cael eu hadolygu'n gyson drwy ymgynghori ag awdurdodau cynllunio lleol, busnesau a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn datblygu a'r system gynllunio. Mae'r newidiadau diweddaraf yn helpu i sicrhau hyblygrwydd i awdurdodau lleol reoli ail gartrefi a llety gosod tymor byr.