11. Dadl Fer: Byw gyda chanser yng Nghymru: Gwella mynediad at wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 6:45, 19 Hydref 2022

Yn y gynhadledd canser yr wythnos diwethaf, roedd byrddau iechyd yn awyddus i dderbyn cynnig Cynghrair Canser Cymru ar gyfer adnoddau a chymorth i gleifion sy'n aros ar lwybrau canser.

Yn fwy cyffredinol, cafodd ein rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd ei chyhoeddi fis Ebrill eleni, ac mae'n nodi y byddwn yn datblygu ac yn ymwreiddio dull rhagsefydlu safonol er mwyn gwella canlyniadau. Felly, dylai rhagsefydlu, adsefydlu, ailalluogi ac adfer gael eu gweld fel elfennau craidd o bob gofal ym mhob llwybr gofal. A pan fo rhywun angen unrhyw driniaeth, mae'n rhaid mynd ati mor gynnar â phosibl i'w paratoi ar gyfer y driniaeth ac ar gyfer yr hyn fydd yn digwydd wedyn. Dŷn ni ddim yn gwireddu gwerth llawn ymyriadau iechyd oni bai ein bod ni'n cefnogi pobl i adfer cystal â phosibl, ac mae hyn yn golygu ymyrryd cyn ac ar ôl triniaeth, i sicrhau'r canlyniadau gorau.

Mae sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio ar hyn yn barod. Rŷn ni hefyd wedi lansio fframwaith adsefydlu cenedlaethol sydd wedi ei ddiwygio. Mae'n amlinellu egwyddorion cryf a chlir ar gyfer rhagsefydlu ac adsefydlu o ansawdd uchel. Yn benodol, mae'n ceisio sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ymwreiddio dull rhagsefydlu sy'n canolbwyntio ar allu'r unigolyn i fyw mor annibynnol â phosibl am mor hir â phosibl. Fe fydd y gweithwyr perthynol i iechyd arweiniol cenedlaethol ar gyfer adsefydlu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn arwain y gwaith o weithredu'r fframwaith newydd.

Fe fydd disgwyl i bob staff iechyd a gofal ganolbwyntio'n bositif ar adfer a chefnogi amcanion adsefydlu eu claf. Mae ein fframwaith proffesiynau perthynol i iechyd yn ceisio sicrhau bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, neu AHPs, ar gael yn fwy cyffredinol mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Mae hefyd am sicrhau bod digon o ymyriadau adsefydlu, ailalluogi ac adfer yn cael eu darparu, yn enwedig adsefydlu yn y gymuned. I wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau ac i ddarparu profiad hwylus i gleifion, dwi'n disgwyl i wasanaethau fod yn integredig ac wedi eu lleoli yn y gymuned, a chanolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na'r clefyd. 

Felly, dwi'n cytuno â'r angen i ddatblygu'r gwasanaethau hyn ac yn gobeithio fy mod i wedi cyfleu ehangder y gwaith sydd eisoes ar y gweill. Diolch.