2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 19 Hydref 2022.
3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella treftadaeth hanesyddol Casnewydd? OQ58579
Diolch. Mae Casnewydd yn ymfalchïo fod ganddi safleoedd treftadaeth o bwysigrwydd rhyngwladol, o gyfnod y Rhufeiniaid hyd at ein gorffennol diwydiannol diweddar. Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i hyrwyddo a gwella treftadaeth unigryw Casnewydd i'w thrigolion ac i ymwelwyr o bob cwr o'r byd.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y dywedoch chi, o'r Siartwyr i Dŷ Tredegar, o'r bont gludo i'n llong ganoloesol, mae Casnewydd yn drysorfa o arwyddocâd hanesyddol. Un o'r tlysau yn ein coron yw pentref Caerllion a'r bensaernïaeth Rufeinig sy'n parhau i fod yno heddiw. Bydd llawer yma wedi ymweld â'r lle, ac os na, Weinidog, mae croeso mawr i chi ymuno â mi a'r Dirprwy Weinidog ar ymweliad. Mae'r amffitheatr bron yn 2,000 o flynyddoedd oed, ond mae'r safle hefyd yn cynnwys yr olion barics Rhufeinig gorau yn Ewrop, ynghyd â baddondy ac amddiffynfeydd. Mae hwn yn gynnig hanesyddol sylweddol sy'n llawer mwy nag olion Rhufeinig eraill yn y DU, gan gynnwys Caerfaddon. Mae mwy i'w ddarganfod o hyd, a gwn fod yr amgueddfa genedlaethol a Cadw yn awyddus i gydweithio gydag eraill, fel yr awdurdod lleol, i hyrwyddo Caerllion yn lleol a chenedlaethol. Ond beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fanteisio'n llawn ar ein cynnig hanesyddol a sicrhau ei fod yn rhan o'n dyfodol yn ogystal â'n gorffennol?
Rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwyf wedi bod yng Nghaerllion. Fe ymwelais â'r amffitheatr a'r barics gyda fy mab a fy mherthnasau-yng-nghyfraith a oedd yn ymweld o Iwerddon. Roeddent yn llawn edmygedd a byddent yn hapus i ddychwelyd ar ryw adeg yn y dyfodol. Rwy'n eithaf cyffrous am darganfyddiadau eraill ar y safle hwnnw yn ddiweddar, gan gynnwys yr hyn a edrychai fel olion porthladd yno hefyd. Felly, mae llawer mwy i'w wneud er mwyn datgelu hanes y safle hwnnw ac nid ei gadw i ddweud stori yn unig, ond beth a olyga ar gyfer ein dyfodol hefyd. Rwy'n bendant yn gweld treftadaeth a hanes fel rhan fawr o'r economi ymwelwyr, ac rydych yn iawn fod Cadw, cyngor Casnewydd, a'r amgueddfa genedlaethol eisoes yn trafod, ac rydym yn ceisio mynd o gwmpas hynny i wneud yn siŵr ein bod yn siarad nid yn unig am yr hyn yr ydym yn ei gadw, ond beth y mae'n ei olygu ar gyfer y dyfodol. Rwy'n meddwl ei fod yn rhan allweddol o gynnig Casnewydd a'r cyffiniau. Mae'r dreftadaeth adeiledig a threftadaeth barhaus yr ardal yn rhan o'r hyn sy'n gwneud Casnewydd yn lle deniadol i fod, ac rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'r Aelod ar ymweliad yn y dyfodol.
Weinidog, mae'n wych clywed Jayne Bryant yn sôn am y llong ganoloesol, ac yn wych hefyd clywed eich gwerthfawrogiad o'r darganfyddiadau hanesyddol yng Nghasnewydd. Darganfuwyd llong ganoloesol Casnewydd ar lannau afon Wysg ym mis Mehefin 2002, a dyma'r llong ganoloesol fwyaf sylweddol o ddiwedd y canol oesoedd a gloddiwyd ac a adferwyd ym Mhrydain. Byddai'r llong o'r bymthegfed ganrif sydd o bwys rhyngwladol yn disgwyl denu tua 150,000 o ymwelwyr i'w gweld unwaith y bydd hi'n cael ei harddangos yn iawn, gan roi hwb o tua £7 miliwn y flwyddyn i economi de Cymru a Chasnewydd. Mae gwirfoddolwyr ymgyrch Cyfeillion Llong Casnewydd yn gofyn i Lywodraeth Cymru a chyngor Casnewydd ymrwymo i gartref mwy canolog a pharhaol i'r llong, a'i ddarparu o'r diwedd—fel y cafodd ei gynnig gyntaf yng ngwaelod Theatr Casnewydd, fel y gwyddoch, Weinidog—ar ôl buddsoddi £9 miliwn o arian cyhoeddus hyd yma. Mae'n rhywbeth sydd wedi'i addo, ac yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur, ac eto, dim ond £10,000 o arian cyfalaf sydd wedi'i glustnodi ers hynny. Mae'r safle presennol, yr ymwelais ag ef—ac mae'r gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith gwych o'r hyn sydd ganddynt lle maent—bellach wedi bod yn gartref dros dro iddynt ers 20 mlynedd. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i weithio gyda chyngor Casnewydd i sicrhau ein bod yn manteisio'n llawn ar y darganfyddiad unigryw yma drwy sicrhau bod lleoliad canolog yn cael ei ganfod cyn gynted â phosibl, ac y bydd digon o arian yn cael ei neilltuo i sicrhau y gall Casnewydd, fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru, a Chymru, sicrhau cymaint o fanteision ariannol a hanesyddol â phosibl o gael arteffact hanesyddol o'r fath yng Nghasnewydd? Fel y dywedodd archaeolegydd—
Na, na, na—nid fel y dywedodd yr archaeolegydd, ar ôl munud a 40 eiliad.
Dim ond un frawddeg—un frawddeg.
Cwestiwn.
Rwyf wedi gofyn fy nghwestiwn. Ailadrodd y cwestiwn oedd hynny.
O, os ydych wedi gofyn eich cwestiwn, fe ellir ei ateb. Fe gaiff ei ateb nawr. Iawn.
Ie. Byddwn yn parhau i weithio gyda Cyfeillion Llong Casnewydd a'r cyngor hefyd, gan eu bod wedi ymrwymo i geisio dod o hyd i gartref parhaol i'r llong, ac mae'n fenter sylweddol i warchod pob un o'r 2,000 o brennau'r llong. Yr her fydd dynodi cyllideb ar gyfer cartref parhaol ar adeg pan fo heriau gwirioneddol iawn i'n cyllideb bresennol, a bydd yn rhaid i bawb ohonom ailasesu'r hyn y gallwn ei gyflawni ar ôl i'r gyllideb Calan Gaeaf gael ei chyflwyno. Ond mae'r ymrwymiad i ddod o hyd i gartref parhaol i long Casnewydd yn parhau ac rwy'n cydnabod y potensial sylweddol sydd ganddi ar gyfer ymwelwyr, yn ogystal â dysgu am ein gorffennol cyffredin.