2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 19 Hydref 2022.
Cwestiynau'r llefarwyr nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Dyma fy nghyfle olaf i'ch holi cyn i Gymru ddechrau ar eu hymgyrch hanesyddol gyntaf yng nghwpan y byd mewn 64 mlynedd. Roeddwn eisiau tynnu sylw at yr hyn a ddywedodd Nasser Al Khater, prif weithredwr Qatar 2022, mewn cyfweliad â'r cyfryngau yn ddiweddar. Awgrymodd y dylai Llywodraethau ganolbwyntio ar y pêl-droed a'i gadael ar hynny. Rydym i gyd yn ymwybodol fod gan Qatar, ar y gorau, hanes bratiog o ran hawliau dynol a'r ffordd y mae'n trin y gymuned LHDT. Ac mae gennym ddyletswydd, rwy'n credu, i dynnu sylw at y materion hyn i'r cefnogwyr sy'n teithio i Qatar a sicrhau nad ydynt yn dioddef rhagfarn am fod yn hwy eu hunain. Maent hyd yn oed wedi awgrymu na ddylai capten Cymru, Gareth Bale, wisgo band braich enfys OneLove. Gwn eich bod chi, y Prif Weinidog a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i gyd yn bwriadu mynd i Qatar i wylio gemau grŵp Cymru, felly roeddwn am roi cyfle i chi ymateb i'r sylwadau hynny gan brif weithredwr cwpan y byd Qatar 2022 cyn ichi fynd. Ac a gaf fi ofyn i chi hefyd, a fyddwch yn codi'r materion ynglŷn â hawliau LHDT a hawliau dynol yn fwy cyffredinol tra byddwch chi yno?
Rwyf am ddechrau drwy gydnabod fy mod, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at weld tîm y dynion yn cymryd rhan yn rowndiau terfynol cwpan pêl-droed y byd. Serch hynny, rwyf am ddechrau drwy gydnabod cyflawniad tîm y menywod. Er nad ydynt wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, mae'r cynnydd sylweddol y maent wedi'i wneud wedi gwneud pawb ar draws y Siambr hon a'r tu allan iddi yn hynod o falch a dylai fod gobaith gwirioneddol ar gyfer y dyfodol. Ac rwy'n sicr yn gobeithio y bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn parhau i fuddsoddi yng ngêm y menywod ar bob lefel, fel bod mwy o Jess Fishlocks yn chwarae yn ein tîm cenedlaethol yn y dyfodol, ac rwy'n meddwl ei fod yn beth da i bob un ohonom weld ein tîm menywod yn bod yn gystadleuol.
Ar y cwpan y byd i ddynion, rwyf eisoes wedi tynnu sylw at y materion yr ydych wedi'u codi yn fy ymweliad blaenorol â Qatar. Roedd yn rhan o'r ymgysylltiad â Llysgenhadaeth Prydain a'r trefnwyr. Rwy'n gwybod bod yna adegau pan fo pobl yn dweud, 'Dylech gadw gwleidyddiaeth a chwaraeon ar wahân', ac mae rheswm da pam nad yw gwleidyddion yn y Siambr hon yn cael penderfynu ar faterion ynglŷn â rheoli chwaraeon, sydd, yn eithaf priodol, yng nghylch gwaith y cyrff llywodraethu hynny, ond mae'n gwbl briodol inni gael sgyrsiau gyda chyrff llywodraethu a rhai rhyngwladol am ein disgwyliadau ar gyfer cefnogwyr a chwaraewyr. Mae'n gwbl briodol cydnabod y cyd-destun y mae gemau'n cael eu chwarae ynddo.
Felly, ydw, rwyf eisoes wedi codi'r materion hynny'n uniongyrchol. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau'r pêl-droed ymhell y tu hwnt i gymal y grwpiau—rwy'n sicr yn gobeithio hynny. Ond gallwch ddisgwyl inni gael sgyrsiau adeiladol, fel y nodais yn fy natganiad blaenorol yn y lle hwn, ynglŷn â bod yn falch o'r Gymru sydd gennym heddiw a'r gwerthoedd sydd gennym, ac ymgysylltu â gweddill y byd ar y sail honno. A gobeithio y bydd chwa o synnwyr cyffredin o safbwynt FIFA yn yr ystyr na fyddant yn ceisio atal capteiniaid timau rhag gwisgo rhwymynnau braich enfys neu rai eraill. Rwy'n meddwl ei fod yn arwydd o ble yr ydym fod ein capteiniaid pêl-droed o bob rhan o'r ynysoedd hyn yn meddwl bod hynny'n beth cadarnhaol iddynt ei wneud ar gyfer y gêm a thu hwnt.
Diolch, Weinidog. Rwy'n ddiolchgar ichi am wneud hynny'n glir ac rwy'n credu bod y Senedd yn sefyll fel un wrth ymbellhau oddi wrth y sylwadau hynny hefyd. Fel y dywedwch, mae chwaraeon a gwleidyddiaeth yn cydblethu ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny'n glir iawn i'r cefnogwyr o Gymru a fydd yn teithio i Qatar hefyd.
Dyma fy nghyfle cyntaf hefyd i'ch holi fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth ers ichi ymgymryd â'r rôl 18 mis yn ôl. Ers hynny, mae'r Gweinidog cyllid wedi gwneud pedwar datganiad yma yn y Senedd ar dwristiaeth; nid ydych chi wedi gwneud unrhyw ddatganiad. Pam?
Wel, mewn gwirionedd, rydych wedi cael cyfleoedd i ofyn cwestiynau ar dwristiaeth, ac fe wnaethoch eu cyfeirio at y Dirprwy Weinidog. Rwy'n falch eich bod wedi ailddarganfod y ddalen cyfrifoldebau gweinidogol. [Chwerthin.] Edrychwch, ar ddatganiadau a gwaith, mae'r datganiadau a wnawn yn y Siambr yn ymwneud â gwaith wrth inni ei ddatblygu ac rwy'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog cyllid ar rai o'r mesurau yr ydym yn edrych arnynt yn ymwneud â'n sector twristiaeth, yn arbennig ar gyflawni ein hymrwymiad maniffesto ynghylch ardoll ymwelwyr. Rwy'n ymgysylltu'n rheolaidd â'r sector ac mae'n sector pwysig i mi.
Yn wir, ddoe, roeddwn yng nghyfarfod bwrdd twristiaeth Prydain yng Nghymru yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, yn gwneud pwyntiau i VisitBritain ei bod yn bwysig eu bod, yn eu gwaith, yn hyrwyddo pob rhan o'r arlwy i dwristiaid sydd gennym o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'r uno rhwng VisitBritain a VisitEngland yn rhywbeth rwy'n dal i feddwl sy'n heriol ac nad yw o reidrwydd yn rhoi'r holl negeseuon cywir. Ond mae gennym arlwy unigryw o fewn Cymru—y diwylliant, y dreftadaeth ieithyddol, ein hanes ein hunain, lle rydym arni heddiw gyda dinasoedd llai i ymweld â hwy na rhai rhannau o Loegr, er enghraifft. Mae llawer iawn gennym i'w gynnig a llawer o bethau yr ydym yn eu trafod, a hynny gyda'r cyrff cenedlaethol strategol hynny ynghylch sut y maent yn cyflwyno Prydain i weddill y byd yn ogystal ag o fewn Prydain, ac yn wir, yn uniongyrchol gyda'r sector ei hun yma, ac rwy'n cydnabod ei fod yn un o'r cyflogwyr sector preifat mwyaf yn yr economi.
Mae arnaf ofn fod rhaid imi anghytuno â chi, Weinidog. Mae'r ffaith mai chi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth, ond nad ydych wedi bod ag unrhyw beth rhagweithiol i'w ddweud am y pwnc mewn gwirionedd, tra bod y Gweinidog cyllid wedi bod yn cyflwyno trethi twristiaeth a newidiadau i eiddo gwyliau hunanddarpar, yn dweud wrthym mai Llywodraeth yw hon nad yw'n gweld twristiaeth fel rhywbeth i'w hyrwyddo neu ei gwella—yn hytrach, eich bod yn ei gweld fel rhywbeth i'w drethu. A bod yn onest, rwy'n credu bod hon yn Lywodraeth Lafur Cymru sy'n brin o syniadau ynglŷn â thwristiaeth yng Nghymru. Felly, Weinidog, beth am ymrwymo i syniad gan y Ceidwadwyr Cymreig yn lle hynny? Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu treth dwristiaeth—[Torri ar draws.]
Ni allaf glywed y sawl sy'n holi. A gawn ni glywed Tom Giffard mewn ychydig o dawelwch, os gwelwch yn dda? Mae angen inni glywed beth sydd ganddo i'w ddweud.
Diolch, Lywydd. Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu treth dwristiaeth—ac rwy'n gobeithio'n fawr na wnewch chi—yr hyn y galwn amdano yw i Lywodraeth Cymru eithrio'r rhai sydd ag anableddau a phersonél y lluoedd arfog o leiaf rhag talu tâl twristiaeth. A yw hyn yn rhywbeth y gwnewch chi ymrwymo iddo heddiw?
Rwy'n meddwl bod un neu ddau o bethau y byddwn yn eu dweud mewn ymateb i'r Aelod. Mae ystod o'r datganiadau a wneuthum ar yr economi yn sicr wedi cael effaith uniongyrchol ar rai o'r dewisiadau y bwriadwn eu gwneud ar hyrwyddo'r economi ymwelwyr, sy'n sector cyflogaeth sylweddol ac yn sector sydd dan bwysau gwirioneddol. Mae lleihad pellach yng ngwariant dewisol pobl, fel sy'n debygol o ddigwydd oherwydd y materion a gafodd lawer o sylw yn dilyn y gyllideb fach lai na phedair wythnos yn ôl, yn cael effaith wirioneddol ar y sector hwn yn enwedig. A phan gynheliais yr uwchgynhadledd economaidd ddiweddar, yn sicr fe wnaethom siarad am yr economi ymwelwyr a rhai o'r heriau sy'n ei wynebu.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn werth nodi y gallai ymddangos fel rhywbeth newydd i wleidyddion Ceidwadol, ond mewn gwirionedd, fe wnaethom sefyll ar faniffesto yr ydym yn bwriadu ei weithredu. Rydym wedi cyhoeddi rhaglen lywodraethu ac rydym wedi trafod ychwanegiadau ati gyda'n partneriaid cytundeb cydweithio, ac nid wyf yn mynd i ymddiheuro am fod yn Llywodraeth gref a sefydlog sy'n gweithredu er budd y genedl, yn hytrach na'r gynghrair anrhefn a welwn yn San Steffan. Rydym yn mynd i gyflawni'r addewidion a wnaethom. Yr her fawr wrth gyflawni ein haddewidion yw'r newid sylweddol yn y darlun economaidd a'r gwariant i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus a'r economi.
Ac ar eich pwynt olaf, am aelodau'r lluoedd arfog neu bobl anabl, rwy'n credu bod angen ichi ystyried nad oes angen cyfraddau arbennig a thriniaeth arbennig ar bob un o'r bobl hynny. Rwy'n credu bod—. Rhoddaf enghraifft i chi. Fe ymwelais â llety twristaidd y gwnaethom helpu'r perchnogion i'w wella, ac fe wnaethant ddweud mai'r ystafelloedd yr oeddent yn cael yr archebion mwyaf cyson a phrysur ar eu cyfer—ac mae hwn yn gynnig pum seren—oedd yr ystafelloedd â mynediad ar gyfer pobl anabl. A hynny oherwydd bod y farchnad wedi crebachu, o ran nifer yr ystafelloedd sy'n hygyrch—. A phan ymwelais â chynnig pedair seren yn Abertawe, roeddent hwythau hefyd yn dweud eu bod wedi cael llawer o ddiddordeb yn eu hystafelloedd hygyrch. Felly, mewn gwirionedd, mae her yno ynghylch cael digon o fynediad at y sector, nid ynghylch dweud bod y bobl hynny angen help gyda'r costau. Maent eisiau gallu mynd i fwynhau eu hunain fel ymwelwyr, a chael y gallu i fynd i gyfleusterau o ansawdd da i wneud hynny. Ac mewn gwirionedd, ein her yw cael cynnig sy'n ddigon amrywiol ac sy'n gynaliadwy i bawb allu cael cyfle i fwynhau'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig ledled y wlad.
Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ar gyflawni ein haddewidion maniffesto, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cydbwyso buddiannau'r economi ymwelwyr, ac yn wir, y cymunedau sy'n cynnal rhannau sylweddol o'n heconomi ymwelwyr, mewn lleoliadau gwledig, arfordirol, a dinasoedd a threfi.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Ddoe, codais yr argyfwng sy'n wynebu'r diwydiannau ynni-ddwys gyda'r Prif Weinidog. Gofynnais a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cymorth pellach, yn benodol ynghylch helpu i leihau biliau ynni, drwy gynorthwyo busnesau fel bragdai i gynhyrchu eu hynni gwyrdd eu hunain, yn ogystal ag edrych ar optimeiddio foltedd. Rwy'n rhoi'r un cwestiwn i chi, Weinidog, gan nad oedd yn glir ddoe o ateb y Prif Weinidog. Y gwir amdani yw nad yw'r gefnogaeth bresennol yn ddigon, ac mae'r rhan fwyaf o fusnesau ynni-ddwys, yn enwedig bragdai, wedi gwario llawer, os nad y cyfan, o'u harian wrth gefn ar oroesi COVID, ac erbyn hyn maent mewn sefyllfa lle mae llawer ohonynt yn rhagweld na fyddant yn para y tu hwnt i'r gaeaf.
Yn ddiddorol, mae hwn yn faes lle rwyf eisoes wedi bod yn ystyried yr hyn y gallem ei wneud ers rhai wythnosau, felly nid yw'n cael ei arwain gan y cwestiwn, ond mae'n rhywbeth yr ydym wrthi'n edrych arno—ynglŷn â sut y gallwn helpu pobl i ddatgarboneiddio o bosibl, yn ogystal â'r potensial i gynhyrchu ynni nad yw'n ddarostyngedig i'r amrywiadau a'r cynnydd mewn prisiau ynni a welsom.
Mewn gwirionedd, roedd yn rhan o'r sgwrs a gefais yn y cyfarfod grŵp trawsbleidiol diweddar ar gwrw a'r dafarn—ac rwy'n gweld bod y Cadeirydd gyda ni; da eich gweld chi, Mr Sargeant. Ac wrth drafod gyda bragwyr a oedd yno, mae'n un o'u pryderon gwirioneddol. Bragwyr, pobyddion, gwneuthurwyr gwydr—mae yna amrywiaeth eang o ddiwydiannau ynni-ddwys y tu allan i'r prif feysydd mawr, megis y sector dur er enghraifft, ac rydym yn wirioneddol awyddus i'w hanghenion gael eu cydnabod yng nghynllun Llywodraeth y DU, nid yn unig y chwe mis o rywfaint o gymorth sydd ar gael, ond wrth lunio cynllun i'r dyfodol sy'n cydnabod eu hanghenion. Oherwydd rydych yn iawn, i lawer o'r bobl hynny, maent yn pryderu am oroesi cyfnod y Nadolig a chyrraedd diwedd y chwe mis o gymorth heb orfod gwneud dewisiadau cyn hynny a allai ddod â'u busnes i ben. Felly, rwy'n cydnabod y gwir risg sy'n bodoli yn y sector bragu a thu hwnt.
Y trueni yw ei fod wedi bod yn sector gwirioneddol lwyddiannus i Gymru, gyda chynnydd mewn bragdai llai, ac yn wir, twf ehangach yn y diwydiant bwyd a diod. Efallai eich bod yn gwybod, ond nid drwy ei ymddygiad ei hun yn unig y mae Alun Davies yn cefnogi'r sector. Pan oedd yn Weinidog â chyfrifoldeb am fwyd a diod, gosododd dargedau heriol ar y pryd ar gyfer twf yn y sector. Ar y pryd, roedd rhai pobl yn ei wawdio am osod y targedau hynny, gan ddweud na fyddent byth yn cael eu cyflawni. Mewn gwirionedd, rydym wedi rhagori ar y targedau hynny.
Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, rydych yn iawn i ddweud bod llwyddiant mawr wedi bod yn y sector bragdai yng Nghymru, yn enwedig y rhai bach annibynnol. Rydym mewn perygl ar hyn o bryd o golli'r holl gynnydd mawr yna mewn cyfnod byr iawn. Felly, er ei bod yn dda clywed eich bod yn mynd ati i ystyried cymorth, byddwn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn cyflwyno datganiad cyn gynted â phosibl, oherwydd, fel y dywedais, mae'r gaeaf bob amser wedi bod yn anodd i letygarwch, ond yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dyma lle maent yn gwneud eu harian er mwyn gallu goroesi misoedd Ionawr a Chwefror, ond mae'n edrych yn debyg y bydd hynny'n amhosibl y Nadolig hwn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd cymorth yn dod cyn gynted â phosibl.
Rydym wedi siarad am sectorau ynni-ddwys eraill hefyd. Roeddech yn sôn am ddur. Hoffwn gyfeirio at ddur yn arbennig fel diwydiant ynni-ddwys arall. Rwy'n siŵr fod y Gweinidog wedi darllen adroddiad UK Steel ar ddyfodol dur yn y DU. Ceir rhai ffigyrau syfrdanol ynddo. Mae gwneuthurwyr dur y DU yn talu 30 y cant yn fwy am drydan na'u cymheiriaid cyfatebol yn yr Almaen, a hyd at 70 y cant yn fwy na'u cymheiriaid yn Ffrainc. Y flaenoriaeth gyntaf sy'n cael ei hamlinellu yn yr adroddiad yw prisiau ynni cystadleuol. Bydd cyflawni hyn yn allweddol i hirhoedledd y sector, yn enwedig, fel y mae'r Financial Times yn adrodd, yn achos Tata Steel, sy'n ystyried symud i ffwrneisi arc trydan.
Er tegwch i Lywodraeth Cymru, mae angen i lefel a graddfa'r buddsoddiad ddod gan Lywodraeth y DU. Ond yn anffodus, mae'r sioe sydd wedi digwydd yn San Steffan wedi gadael llawer o ansicrwydd yn y sector dur yng Nghymru. Daeth y Gweinidog i'r cyfarfod grŵp trawsbleidiol ar ddur yn ddiweddar a nododd y trafferthion yr oedd yn eu cael ar y pryd gyda Llywodraeth y DU, ond a yw'r Gweinidog wedi cael unrhyw ymgysylltiad diweddar â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol o dan y gyfundrefn newydd hon ar ddur o Gymru, a pha sicrwydd y gall ei roi i'r sector heddiw?
Rwyf am ddychwelyd at y pwynt olaf a wnaethoch am letygarwch. Rwy'n ymwybodol iawn fod yr haf wedi bod yn rhesymol ond heb fod yn doreithiog. Felly, mewn gwirionedd, ar draws lletygarwch, mae yna heriau gwirioneddol wrth gyrraedd yr hydref a'r gaeaf. Mae'n gwneud y gyllideb Calan Gaeaf hyd yn oed yn bwysicach iddynt o ran beth fydd hynny'n ei wneud i'n gallu i gynorthwyo'r sector hwn, ond hefyd yr economi yn ehangach wrth symud ymlaen. Mae heriau o hyd ynghylch staffio, ond mae hyder defnyddwyr a gwariant dewisol yn fater real iawn sy'n effeithio'n uniongyrchol ar hyfywedd busnesau. Mae nifer o fusnesau lletygarwch yn gwneud cryn dipyn o'u helw yn y cyfnod sy'n arwain at y flwyddyn newydd, ond rwy'n ymwybodol iawn fod nifer o'r busnesau hynny'n ei chael hi'n anodd iawn yn y cyfnod sy'n arwain at hynny, ac mae nifer yn weithredol am lai o oriau o ganlyniad uniongyrchol i gyfuniad o'r holl ffactorau hynny.
Ar ddur, cyfarfûm â Kwasi Kwarteng pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, fel yr oedd bryd hynny, mewn cyngor dur a gynhaliwyd gennym yng Nghaerdydd. Bryd hynny, roeddem yn dadlau dros gael eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch buddsoddiad mewn perthynas â Tata, ac fe fyddwch wedi gweld eu bod wedi dangos eu safbwynt yn gyhoeddus, ond hefyd y mater tragwyddol ym mhob cyngor dur, sef costau ynni. Oherwydd ceir gwahaniaethu yng nghost ynni fel y caiff ei gyflenwi i sectorau yn yr Almaen a rhannau eraill o Ewrop hefyd. Mae hynny'n parhau i fod yn rhywbeth y gofynnwn amdano. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda Simon Clarke a chyda Jacob Rees-Mogg, sef yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae hynny eto i ddigwydd.
Yn y cyfarfod cychwynnol a gefais gyda Simon Clarke ynglŷn â pharthau buddsoddi—gofynnodd am gyfarfod—fel y dywedais mewn atebion cynharach, roeddem yn adeiladol ond yn glir yn ein hymateb. Fe ddywedais yn glir, ac yn y cwestiwn dilynol yn wir, fod dur yn un o'r meysydd blaenoriaeth lle rwy'n credu y gallem wneud rhywbeth o ddefnydd a gwerth go iawn a byddem yn awyddus i gael sgwrs bwrpasol ynglŷn â sut y gellir cefnogi'r sector. Mae cyfleoedd sylweddol yn y sector dur yng Nghymru a thu hwnt ar gyfer gweithgarwch economaidd, yn enwedig wrth inni edrych ar gyfleoedd yn y môr Celtaidd. Rwyf am i'r dur hwnnw gael ei wneud yn y DU a pheidio â chael ei fewnforio o rannau eraill o'r byd, i wneud yn siŵr ein bod yn cael y gorau o'r cyfleoedd sy'n bodoli. Byddwn yn parhau i ddadlau dros ymgysylltu adeiladol â Gweinidogion a dewisiadau cyllidebol gweithredol wedyn er mwyn ei gwneud yn bosibl gwireddu'r cyfleoedd hynny.