Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative 2:32, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Rwy'n ddiolchgar ichi am wneud hynny'n glir ac rwy'n credu bod y Senedd yn sefyll fel un wrth ymbellhau oddi wrth y sylwadau hynny hefyd. Fel y dywedwch, mae chwaraeon a gwleidyddiaeth yn cydblethu ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny'n glir iawn i'r cefnogwyr o Gymru a fydd yn teithio i Qatar hefyd.

Dyma fy nghyfle cyntaf hefyd i'ch holi fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth ers ichi ymgymryd â'r rôl 18 mis yn ôl. Ers hynny, mae'r Gweinidog cyllid wedi gwneud pedwar datganiad yma yn y Senedd ar dwristiaeth; nid ydych chi wedi gwneud unrhyw ddatganiad. Pam?