Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 19 Hydref 2022.
Diolch, Lywydd. Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu treth dwristiaeth—ac rwy'n gobeithio'n fawr na wnewch chi—yr hyn y galwn amdano yw i Lywodraeth Cymru eithrio'r rhai sydd ag anableddau a phersonél y lluoedd arfog o leiaf rhag talu tâl twristiaeth. A yw hyn yn rhywbeth y gwnewch chi ymrwymo iddo heddiw?