Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 19 Hydref 2022.
Mae arnaf ofn fod rhaid imi anghytuno â chi, Weinidog. Mae'r ffaith mai chi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth, ond nad ydych wedi bod ag unrhyw beth rhagweithiol i'w ddweud am y pwnc mewn gwirionedd, tra bod y Gweinidog cyllid wedi bod yn cyflwyno trethi twristiaeth a newidiadau i eiddo gwyliau hunanddarpar, yn dweud wrthym mai Llywodraeth yw hon nad yw'n gweld twristiaeth fel rhywbeth i'w hyrwyddo neu ei gwella—yn hytrach, eich bod yn ei gweld fel rhywbeth i'w drethu. A bod yn onest, rwy'n credu bod hon yn Lywodraeth Lafur Cymru sy'n brin o syniadau ynglŷn â thwristiaeth yng Nghymru. Felly, Weinidog, beth am ymrwymo i syniad gan y Ceidwadwyr Cymreig yn lle hynny? Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu treth dwristiaeth—[Torri ar draws.]