Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 19 Hydref 2022.
Diolch, Lywydd. Ddoe, codais yr argyfwng sy'n wynebu'r diwydiannau ynni-ddwys gyda'r Prif Weinidog. Gofynnais a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cymorth pellach, yn benodol ynghylch helpu i leihau biliau ynni, drwy gynorthwyo busnesau fel bragdai i gynhyrchu eu hynni gwyrdd eu hunain, yn ogystal ag edrych ar optimeiddio foltedd. Rwy'n rhoi'r un cwestiwn i chi, Weinidog, gan nad oedd yn glir ddoe o ateb y Prif Weinidog. Y gwir amdani yw nad yw'r gefnogaeth bresennol yn ddigon, ac mae'r rhan fwyaf o fusnesau ynni-ddwys, yn enwedig bragdai, wedi gwario llawer, os nad y cyfan, o'u harian wrth gefn ar oroesi COVID, ac erbyn hyn maent mewn sefyllfa lle mae llawer ohonynt yn rhagweld na fyddant yn para y tu hwnt i'r gaeaf.