Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 19 Hydref 2022.
Mae'r prif ysgogiadau i fynd i'r afael â chynnydd mewn costau i fusnesau, cyfraddau llog ar gyfer benthyca, treth ar ffawdelw a rheoleiddio'r farchnad ynni oll ym meddiant Llywodraeth y DU. Ein blaenoriaeth ni yw cefnogi busnesau i ddatgarboneiddio ac i arbed ynni, fel y soniais mewn ymateb i gwestiynau blaenorol heddiw. Rydym yn parhau i nodi cyfleoedd i ailgyfeirio adnoddau er mwyn lleihau baich ar fusnesau.