Cymorth i Fusnesau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:09, 19 Hydref 2022

Diolch am yr ymateb yna. Mi ofynnais i ddoe am ddatganiad yn dilyn y newyddion bod 28 o swyddi yn y fantol yn AMG Alpoco yng Nghaergybi; dwi wedi ysgrifennu at y Gweinidog ynglŷn â hynny eto heddiw. Cynnydd mewn costau, a chostau ynni yn arbennig, sydd yn gyrru'r ailstrwythuro yma, ond, wrth gwrs, dydy Alpoco ddim ar eu pennau eu hunain. Mae Plas Farm, cwmni hufen iâ ac iogwrt wedi'i rewi yn Ynys Môn, yn gweld chwyddiant yn codi hyd at 50 y cant ar eu costau nhw i gyd, a gallan nhw, fel Alpoco, ddim pasio'r costau cynyddol hynny ymlaen i'w cwsmeriaid. Rŵan, mae Plas Farm yn disgwyl cynnydd o bron £50,000 y mis yn eu bil ynni—£50,000 y mis. Mae hynny'n codi pryderon am ddyfodol y cwmni a'r 25 o staff, mewn difrif. Maen nhw yn buddsoddi mewn ynni solar, er enghraifft, ond tra, wrth gwrs, rydyn ni angen gweld gweithredu brys gan Lywodraeth Prydain, a gaf i ofyn eto pa gymorth y gall y Llywodraeth ei roi i gwmnïau energy intensive fel Plas Farm? Hefyd, a gaf i ofyn am sicrwydd bod pob cymorth yn cael ei roi i weithlu Alpoco ar hyn o bryd?