6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:39, 19 Hydref 2022

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n anrhydedd cael cyflwyno y ddadl yma ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, oherwydd ar ddechrau'r chweched Senedd fe gytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i ynni adnewyddadwy, gan gydnabod, wrth gwrs, rôl hanfodol ynni adnewyddadwy wrth fynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd. Nawr, mi wnaethom ni edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a beth arall y mae angen iddi ei wneud hefyd er mwyn cynyddu datblygiad ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a phan wnaethom ni ddechrau ar ein hymchwiliad ddechrau'r flwyddyn, gallem ni byth, wrth gwrs, fod wedi rhagweld difrifoldeb yr argyfwng ynni presennol na'r effaith, wrth gwrs, y byddai hynny'n ei gael, nid yn unig ar Gymru, ond tu hwnt.