Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 19 Hydref 2022.
Felly, wrth i'r ymateb domestig i'r argyfwng barhau i ddatblygu, fe wyddom wrth gwrs y gallai ein rhoi ar y trywydd naill ai i gyflawni neu dorri ein hymrwymiad i gyrraedd sero net erbyn 2050. Mae’n bosibl y gall y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fis diwethaf ddarparu rhywfaint o hoe i fusnesau a chartrefi, er, yn dilyn cyhoeddiad dydd Llun, efallai mai byr iawn fydd yr hoe hon mewn gwirionedd. Ond mae’r penderfyniad i godi’r gwaharddiad ar ffracio a chynyddu cynhyrchiant olew a nwy ym môr y Gogledd yn llenwi’r rhai ohonom sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid hinsawdd ag ofn. Mae’r penderfyniadau hyn, a wnaed lai na blwyddyn—llai na blwyddyn—ar ôl yr addewidion a wnaed yn COP26 yn gywilyddus, a dweud y gwir.
Ni ddylai camau i fynd i'r afael â'r argyfwng ynni a diogelu ffynonellau ynni domestig ddod ar draul y blaned. Mae amser yn prysur ddiflannu i osgoi trychineb hinsawdd. Mae'r argyfyngau ynni a hinsawdd yn rhannu ffynhonnell gyffredin: tanwydd ffosil. Maent hefyd yn rhannu ateb cyffredin: ynni adnewyddadwy. Ac nid yw’r achos dros gyflymu datblygiad ynni adnewyddadwy erioed wedi bod yn gryfach yn fy marn i.
Felly, cynhaliwyd ein hymchwiliad yn fuan ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canlyniad ei harchwiliad dwfn. Diben yr archwiliad dwfn, wrth gwrs, oedd nodi’r rhwystrau presennol i gyflymu datblygu a’r camau sydd eu hangen i fynd i’r afael â hwy. Cafodd argymhellion yr archwiliad dwfn eu croesawu gan randdeiliaid. Ond roedd yna deimlad hefyd, mewn rhai meysydd, nad ydynt ond yn crafu'r wyneb.
Nid yw nifer o’r rhwystrau a nodwyd gan yr archwiliad dwfn yn newydd, ac nid yw addewidion Llywodraeth Cymru o gamau i fynd i’r afael â hwy yn newydd ychwaith. Nododd strategaeth ynni 2012 Llywodraeth Cymru ystod o gamau gweithredu i wella'r broses gynllunio a chydsynio, a'r seilwaith grid yng Nghymru hefyd—rhwystrau allweddol i ddatblygu. Ddegawd yn ddiweddarach, mae'n gwneud yr un addewidion. Wrth inni gychwyn ar gyfnod tyngedfennol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, mae'r angen i Lywodraeth Cymru fwrw iddi a chyflawni'r addewidion hyn yn fwy nag erioed.
Yn ein hadroddiad, gwnaethom 17 o argymhellion, a derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un ohonynt, neu o leiaf eu derbyn mewn egwyddor. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys bod hynny'n ymateb cadarnhaol. Ond wrth ddadansoddi ymhellach, wrth gwrs, rydym yn cwestiynu a yw Llywodraeth Cymru wedi deall o ddifrif i ba raddau y mae angen iddi weithredu ar frys. Mae'r ymateb yn frith o dermau fel 'parhau i weithio ar', 'parhau i ystyried opsiynau', 'trafodaethau parhaus' ac 'archwilio potensial'. Nawr, wrth gwrs, rydym yn deall na fydd chwalu rhwystrau hirsefydlog yn digwydd dros nos. Ond gyda datblygu yng Nghymru'n arafu, mae angen inni weld canlyniadau yn sgil yr archwiliad dwfn, ac mae angen inni eu gweld ar fyrder.
Yn ein hadroddiad, fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu manwl i nodi sut y mae'n bwriadu bwrw ymlaen ag argymhellion yr archwiliad dwfn, gan gynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni. Y meddylfryd y tu ôl i hyn oedd sicrhau tryloywder llawn, a hwyluso a chefnogi craffu. Mewn ymateb, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adrodd i’r Senedd ddwywaith y flwyddyn ar y cynnydd tuag at weithredu, ac rydym yn croesawu hynny’n fawr. Cyhoeddwyd y cyntaf o’r adroddiadau hyn yn gynharach y mis hwn, ac fel pwyllgor, byddwn yn cadw llygad barcud ar y cynnydd drwy weddill tymor y Senedd hon.
Fel y soniais eisoes, un o’r rhwystrau allweddol i ddatblygu yng Nghymru, wrth gwrs, yw’r grid. Ers dros ddegawd, cafwyd galwadau croch a pharhaus am gamau gweithredu gan Lywodraethau i fynd i’r afael â chyfyngiadau'r grid. Er gwaethaf hyn, ychydig o gynnydd a wnaed, ac mae Cymru ymhell o fod â grid sy’n barod i allu cefnogi trawsnewid cyflym i ynni adnewyddadwy. Gwyddom mai cyfyngedig yw'r dulliau sydd gan Lywodraeth Cymru at ei defnydd i sicrhau gwelliannau i’r grid. Llywodraeth y DU, wrth gwrs, sy'n parhau i fod yn gyfrifol am y drefn reoleiddiol sy’n llywodraethu’r grid a mynediad at gyllid. Yn ei adroddiad diweddar ar ynni adnewyddadwy yng Nghymru, mynegodd Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin bryderon nad yw Llywodraeth y DU wedi deall difrifoldeb cyfyngiadau'r grid ar yr ochr hon i’r ffin eto, ac mewn gwirionedd, nid yw hyn yn ddim llai na brawychus. Mae'r heriau y mae cyfyngiadau'r grid yn eu hachosi i ddatblygu ac i uchelgeisiau datgarboneiddio ehangach Cymru yn golygu na ddylid caniatáu i hyn barhau.
Mae argymhellion 6 a 7 yn adlewyrchu ein barn fod rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy a gwneud mwy i sicrhau bod San Steffan yn deall anghenion seilwaith grid Cymru yn awr ac yn y dyfodol yn llawn. Felly, Weinidog, mae eich ymateb i’n hadroddiad yn cyfeirio at eich cyfarfod â Gweinidogion y DU ym mis Mehefin, pan wnaethoch grybwyll materion yn ymwneud â’r grid. Efallai y gallwch ddweud wrthym yn eich ymateb a ydych yn credu bod y geiniog wedi syrthio ac a ydynt o ddifrif ynglŷn â'r materion hyn mewn gwirionedd.