Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 19 Hydref 2022.
Clywodd y pwyllgor gan amrywiaeth o randdeiliaid ynghylch hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth cartrefi gofal, gan gynnwys tystiolaeth lafar gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Age Cymru, Fforwm Gofal Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, a Llywodraeth Cymru ei hun. Cafodd y pwyllgor gyflwyniadau ysgrifenedig hefyd gan amrywiaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru ac eraill, a diolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad pwysig hwn.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o'n hargymhellion, mae'r pwyllgor yn nodi bod ei hymateb i'w weld yn codi cwestiynau ynglŷn â'u dealltwriaeth o rai o'r materion, er bod y rhain wedi'u nodi'n glir yng nghyfraith gyfredol Cymru a'r canllawiau. Pryder, felly, yw'r ffaith bod yr ymateb yn arwydd o arafwch y broses o ddiwygio polisi yn y meysydd hynny ac yn benodol, arafwch y broses o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried lleisiau defnyddwyr gwasanaethau wrth ystyried diwygio polisi yn y maes, lle mae profiadau byw trigolion yn dystiolaeth hanfodol fel rhan o unrhyw broses ddiwygio. Dylai eu lleisiau fod yn ganolog i waith grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru a'r grŵp annibynnol sy'n datblygu'r fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaeth gofal cenedlaethol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn gan nodi bod y grŵp arbenigol annibynnol yn cynnwys unigolion o ystod o gefndiroedd amrywiol. Clywodd y pwyllgor y dylai argymhellion y grŵp annibynnol fod wedi dod i law Gweinidogion ddiwedd Ebrill, ond bod oedi wedi bod. Nid yw'n eglur o ymateb Llywodraeth Cymru beth yw statws cyfredol gwaith y grŵp a phryd y bydd yn cyflwyno'i adroddiad. Felly, byddwn yn croesawu eglurder gan y Gweinidog ar hyn, o ystyried y rôl bwysig sydd gan y grŵp yn hyrwyddo diwygio polisi yn y maes hwn.
Yn anffodus, nid yw'r naratif sy'n cyd-fynd â derbyn yr argymhellion hyn yn ddigon i gyflawni argymhelliad y pwyllgor a darpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ei hun, sy'n mandadu dull cydgynhyrchiol, ac rwy'n dyfynnu:
'Rhaid i unigolion a’u teuluoedd allu cymryd rhan lawn yn y broses o ddewis a chyflawni eu canlyniadau llesiant drwy broses sy’n hygyrch iddyn nhw.'
Mae hyn yn wahanol i'r dull ymgynghorol a ddisgrifir yn ymateb Llywodraeth Cymru.
Mae Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth, er enghraifft, yn disgrifio cydgynhyrchu fel hyn
'Nid gair yn unig, nid cysyniad yn unig mohono, ond meddyliau'n dod ynghyd i ganfod ateb ar y cyd.'
Fel y dywedant:
'Mae gwahaniaeth rhwng cydgynhyrchu a chymryd rhan: mae cymryd rhan yn golygu ymgynghori, tra bod cydgynhyrchu yn golygu bod yn bartneriaid cyfartal a chyd-grewyr.'
Mae cydgynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus go iawn gyda defnyddwyr a chymunedau yn ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau eraill yn well—yn yr achos hwn, i boblogaeth sy'n heneiddio. Nid yw'n ymwneud ag ymgynghori â rhanddeiliaid ar ôl i bolisi gael ei ddatblygu, ni waeth pwy oedd yn rhan o ddatblygu'r polisi hwnnw. Rwy'n gofyn am sicrwydd gan y Gweinidog ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod ei grŵp arbenigol yn cyrraedd y rhai y mae'n fwyaf perthnasol iddynt ac yn eu cynnwys yn y broses o greu a darparu gwasanaeth sy'n gweithio i bawb, nid dim ond ymgynghori â hwy wedyn.
Mae'n destun pryder nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn arwain ar y dull hwn, er gwaethaf bwriad darpariaethau cydgynhyrchu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y bûm yn gweithio gyda'r Dirprwy Weinidog ar y pryd, Gwenda Thomas, ar ei ddatblygu, ac yn fwyaf arbennig, nid yn unig y Ddeddf ei hun ond y codau ymarfer perthnasol, sy'n gwbl glir yn hyn o beth. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad y pwyllgor yn ei holl waith yn y maes hwn yn y dyfodol ac i weithredu darpariaethau cydgynhyrchu diamwys y Ddeddf a'i chodau ymarfer.
Daeth y pwyllgor i'r casgliad hefyd y dylid gwneud mwy i gefnogi ac annog cyfranogiad gwirfoddolwyr yn y sector cartrefi gofal, i gynnig gwasanaethau ansawdd bywyd i ddefnyddwyr gwasanaethau. Fodd bynnag, rhaid i rôl gwirfoddolwyr beidio â bodoli yn lle gofal cyflogedig proffesiynol, amser llawn. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn a darparodd fwy o wybodaeth am brosiect peilot diweddar i geisio recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi darpariaethau ymweld diogel rhwng preswylwyr a pherthnasau yn ystod y pandemig. Caiff y pwyllgor ei galonogi o glywed bod nodau'r prosiect peilot cychwynnol hwn i'w hehangu, a byddem yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu cytuno i barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hyn.