Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 19 Hydref 2022.
Diolch am y cyfle i drafod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gomisiynu cartrefi gofal. Efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol o adroddiad y pwyllgor ar y mater hwn, adroddiad a wnaeth sawl argymhelliad allweddol mewn maes cymhleth, gyda'r nod o wneud y system yn fwy teg i bawb. Bu'r ymchwiliad yn ystyried adroddiad cryno cenedlaethol Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Comisiynu Cartrefi Gofal'.