Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 19 Hydref 2022.
Mae'r ymchwiliad hwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn amserol yn fy marn i. Mae cartrefi gofal yn chwarae rhan bwysig yn y ddarpariaeth gofal i bobl hŷn yn bennaf, ond nid pobl hŷn yn unig. Mae'n cynnwys nifer fawr o ddarparwyr. Mae rhai yn ddarparwyr gyda mwy nag un safle, eraill ond ag un cartref, a cheir rhai darparwyr mawr, ond mae pob un ohonynt yn darparu gofal i unigolion. Mae pob un o'r rhain yn bwysig.
Nid yw'n uchelgais gan neb i fynd i gartref gofal, ond bydd llawer ohonom yn yr ystafell hon heddiw yn mynd i gartref gofal yn y pen draw, a bydd mwy fyth ohonom ag aelod o'r teulu mewn cartref gofal naill ai nawr neu yn y dyfodol. Felly, mae gan bob un ohonom ddiddordeb personol mewn cael hyn yn iawn. Bwriad adroddiad y pwyllgor oedd archwilio a thynnu sylw at yr heriau a wynebir ym maes cymhleth comisiynu cartrefi gofal i bobl hŷn, gyda'r nod o wneud y system yn decach i bawb. Rwy'n credu bod 'teg' yn air y mae angen inni ei ddefnyddio'n amlach, oherwydd dylai popeth fod yn deg. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth am hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth cartrefi gofal yng Nghymru, yr amrywiaeth a'r cymhlethdod sy'n gysylltiedig â chyllido gofal, lleoedd mewn cartrefi, yr anhawster a wynebir i ddenu a chadw staff i'r diwydiant, a'r diwygiadau polisi arfaethedig sy'n berthnasol i'r maes hwn.
Argymhelliad y pwyllgor oedd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried llais defnyddwyr gwasanaethau fel rhan o'u gwaith diwygio polisi yn y maes. Byddai'r pwyllgor yn croesawu rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y maent wedi ymgynghori gyda defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd fel rhan o waith y grŵp arbenigol ar ofal cymdeithasol. Rwy'n cefnogi'r alwad y dylai'r grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru sy'n datblygu'r fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol ymgynghori â defnyddwyr gwasanaethau fel rhan o'i waith, ac fel rhan fawr o'i waith, byddwn i'n dweud. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi diweddariad ar sut y caiff hyn ei gyflawni fel rhan o'i hymgynghoriad yng ngwanwyn 2023. Yn rhy aml, caiff pethau eu gwneud i ddefnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd, caiff pethau eu gwneud ar eu cyfer, pethau y mae pobl yn meddwl a fydd yn dda iddynt. Yn rhy aml, mae hyn yn seiliedig ar y gred mai 'gweithwyr proffesiynol sy'n gwybod orau', yn hytrach na'r unigolion a'u teuluoedd. Ac nid ym maes gofal yn unig; mae'r un peth yn digwydd ym maes iechyd.
Yn rhan o'r gwaith o ddatblygu gwasanaeth gofal cenedlaethol, argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ystyried beth arall y gellir ei wneud i adolygu cyflogau a thelerau ac amodau gweithwyr gofal, i sicrhau eu bod yn gydradd â staff y GIG ac i fod yn gystadleuol â diwydiannau eraill fel y diwydiant lletygarwch. Heb gyflogau ac amodau cydradd, bydd y sector yn parhau i wynebu problemau recriwtio a chadw staff. Mae iechyd a gofal yn galw am lawer o'r un sgiliau. Mae iechyd yn talu'n well, ac mae'n cael ei ystyried yn bwysicach gan wleidyddion a'r cyhoedd. Gofal yw perthynas tlawd y gwasanaeth iechyd a gofal mewn gwirionedd, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn fod y Gweinidog yn poeni llawer amdano, felly nid ymgais ar fy rhan i ladd ar y Gweinidog yw hyn, oherwydd mae gennym Weinidog sy'n deall pwysigrwydd y system ofal mewn gwirionedd ac sydd wedi ymrwymo i'r system ofal. Ond mae staff cartrefi gofal yn gadael i weithio yn y gwasanaeth iechyd, gan greu problem prinder staff mewn cartrefi gofal. A pham na fyddent yn gwneud hynny? Nid yw'n ymwneud â thâl bob amser, ond pam na fyddai pobl yn gadael am swydd sy'n talu'n well? Ac yn enwedig yn y cyfnod yr ydym ynddo yn awr pan fo pobl o dan bwysau ariannol, mae llawer i'w ddweud dros symud i swydd sy'n talu'n well. Gallai olygu eich bod yn rhoi'r gwres ymlaen hanner awr ynghynt, gallai olygu eich bod yn cael tri phryd y dydd nid dau, neu ddau bryd bwyd y dydd nid un. Felly, mae'n bwysig iawn fod y cyflog yno. Gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi siarad am hyn ac rwy'n gwybod bod ymrwymiad y Dirprwy Weinidog iddo mor fawr â fy un i, ond mae'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei sicrhau, nad gofal yw'r perthynas tlawd. Mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi derbyn yr angen i godi cyflogau, yr hyn sydd ei angen yn awr yw gweithredu ar godi cyflogau i'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal.
Mae angen i Lywodraeth Cymru fandadu dull mwy rhagweithiol o rannu gwybodaeth ar draws y sector cartrefi gofal, yn enwedig gwybodaeth am brofiad a boddhad defnyddwyr gwasanaethau, yn gysylltiedig â'r saith nod llesiant i Gymru. Dylai'r gofyniad gorfodol i rannu gwybodaeth gael ei weithredu ar lefel genedlaethol i sicrhau bod darparwyr, defnyddwyr gwasanaethau a Llywodraeth Cymru yn cael mynediad at wybodaeth gyson a pherthnasol. Mae angen rhannu data hefyd, ac yn bwysicach efallai, rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a chartrefi gofal. Yn rhy aml o lawer, mae gan bawb eu system eu hunain, mae pawb yn dweud nad ydynt yn cael rhannu, ac rydym yn cael dau ateb ar hynny: mae naill ai'n costio llawer neu nid yw GDPR yn ei ganiatáu. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda darparwyr i ofyn yn rhagweithiol am ganiatâd defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd i rannu gwybodaeth; pan fydd pobl yn darparu gwybodaeth, eu cael i gymeradwyo rhannu gydag iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwasanaethu'r cartref gofal. Byddai hyn yn caniatáu rhannu data, yn union fel y ffordd y mae pawb ohonom yn caniatáu i ddata gael ei rannu gan sefydliadau yr ydym yn ymwneud â hwy. Rydym yn ticio'r bocs, 'A gawn ni rannu data?' Mae angen inni gael y bocs yno pan fo pobl mewn mannau iechyd a gofal.
Rwy'n rhannu pryder y pwyllgor ynghylch codi ffioedd ychwanegol ac yn cefnogi'r argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyfyngiadau rhwymol er mwyn cyfyngu ar y meysydd lle codir ffioedd o'r fath, a dylid eu cadw mor isel â phosibl a'u cyhoeddi. Soniodd Mark Isherwood yn gynharach am godi tâl am bethau fel defnyddio gardd y cartref gofal; mae hynny'n annheg ac yn anghywir. Ac yn olaf, rwy'n falch iawn fod yr archwilydd cyffredinol wedi archwilio'r sector cartrefi gofal a bod y pwyllgor wedi cynhyrchu'r adroddiad hwn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn gwrando arnom.