Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 19 Hydref 2022.
Daw'r adroddiad hwn ar gomisiynu cartrefi gofal yn sgil adolygiad yr archwilydd cyffredinol a gyhoeddwyd ym mis Hydref y llynedd, o'r enw 'Darlun o Ofal Cymdeithasol'. Mae'r adolygiad hwn wedi edrych ar y sector gofal cymdeithasol cyfan ledled Cymru ac mae wedi nodi tri mater allweddol a heriau hirsefydlog i'r sector. Yn flaenaf ymhlith y rhain y mae'r angen i gyflawni cynaliadwyedd ariannol a threfniadau cyllido. Honnai fod cynnydd ar fynd i'r afael â heriau wedi bod yn araf a bod y pandemig wedi gwneud yr angen am newid hyd yn oed yn fwy dybryd. Yn wir, dywedodd yr archwilydd cyffredinol yn glir, er bod y pandemig wedi amlygu breuder gwasanaethau gofal ar draws Cymru, roedd y rhan fwyaf o'r problemau yn bodoli'n barod i ryw raddau.
Mae'r galw am ofal cymdeithasol i oedolion yn debygol o gynyddu'n sylweddol, ac rwy'n gwybod bod fy nau gyd-Aelod wedi tynnu sylw at hynny. Mae platfform amcanestyniad poblogaeth Gofal Cymdeithasol Cymru yn dangos, o 2020 i 2040, y rhagamcanir y bydd nifer y bobl dros 65 oed sy'n cael trafferth gyda gweithgareddau byw bob dydd yn cynyddu i 34 y cant. Yn wyneb yr heriau hyn, archwiliodd y pwyllgor y gwaith o gomisiynu cartrefi gofal i bobl hŷn gyda'r bwriad o gryfhau'r sector a'i wneud yn fwy teg. Edrychwyd ar hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth, yn ogystal ag amrywiadau cyllido a materion yn ymwneud â recriwtio a chadw staff, fel y crybwyllodd fy nghyd-Aelodau eisoes.
Ar hygyrchedd, cafodd y pwyllgor ei arwain gan yr egwyddor o symleiddio'r broses ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau. Dywedodd adroddiad cryno cenedlaethol yr archwilydd cyffredinol fod mynediad pobl hŷn at gartrefi gofal yn gymhleth ac yn anodd ei lywio, ac nid yw'n deg fod pobl oedrannus a'u teuluoedd yn gorfod ymdopi â hynny. Nododd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod ansawdd cyffredinol cartrefi gofal yn amrywio ac adroddodd Age Cymru am broblemau lle nad oes gofal ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar gyllido, fe wnaethom geisio darganfod y rhesymau dros yr amrywio yn y gwariant ar ofal preswyl a chostau gofal iechyd wythnosol parhaus. Unwaith eto, os caf ddyfynnu'r archwilydd cyffredinol, gall dulliau o ariannu'r sector cyhoeddus ar gyfer gwahanol agweddau ar ofal greu rhaniad ymhlith partneriaid. Mae'r tirlun cyllido ar gyfer gofal cymdeithasol yn gymhleth iawn ac yn ddryslyd oherwydd y ffrydiau ariannu amrywiol y gallai unigolyn fod yn gymwys ar eu cyfer. Gwn ein bod i gyd yn cefnogi cydraddoldeb yma ar draws y pleidiau yn y Senedd, ond mae'n rhaid inni gael cydraddoldeb i'r henoed yma ledled Cymru. Fy mhryder mwyaf yw bod y safonau'n amrywio, gyda chleifion sy'n cael eu hariannu'n breifat yn gallu cael mynediad at lety o ansawdd llawer gwell.
Ar recriwtio a chadw staff, nododd y pwyllgor fod gweithwyr yn cael eu colli i'r diwydiannau manwerthu a lletygarwch am fod lefel uwch o gyflog yn cael ei gynnig a llai o bwysau gwaith. Roedd staff hefyd yn cael eu colli i'r GIG am yr un rhesymau.
Er mwyn ymateb i'r heriau hyn, rydym wedi gwneud 13 o argymhellion, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno—gyda fy nghyd-Aelodau, gan eu bod hwy wedi crybwyll hyn hefyd—fod 10 wedi cael eu derbyn. Hoffwn eich annog, felly, Weinidog, i ailystyried o ddifrif eich gwrthwynebiad i argymhelliad 8 yn benodol, ynglŷn â'r angen am ddull mwy rhagweithiol o rannu gwybodaeth er tryloywder ac i sicrhau mynediad at wybodaeth gyson a pherthnasol.
Yn anffodus, mae ein hargymhellion 11 a 12 ar godi ffioedd ychwanegol wedi eu gwrthod. Yng Nghymru, er ein bod i gyd yn sôn am gydraddoldeb a thegwch i bawb, mae'n drist iawn nad yw'n amlwg mewn gofal i'r henoed yma yng Nghymru. Mewn tystiolaeth, dywed Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod defnyddwyr gwasanaethau'n aml yn ansicr ynglŷn â'r hyn a fydd yn galw am ffioedd ychwanegol ac nad yw gwir gost gofal wedi ei deall yn llawn o ganlyniad i hynny. Mae angen iddynt gael hynny yn ei le, Weinidog. Hoffwn ofyn ichi edrych unwaith eto ar y mater hwn i roi sicrwydd fod codi ffioedd ychwanegol yn digwydd yn enw cydraddoldeb, tegwch a thryloywder yn y dyfodol.
Felly, Weinidog, mae'r bwriad yno'n llawn yn nodau'r adroddiad hwn i sicrhau bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn fwy hygyrch, yn llai cymhleth ac yn decach i unigolion agored i niwed a'u teuluoedd. Rwy'n credu'n wirioneddol ei fod wedi llwyddo yn ei nodau ac rwy'n ei gefnogi'n llawn, ond rhaid edrych eto ar y meysydd a wrthodwyd gan na allwn anwybyddu'r boblogaeth gynyddol sy'n heneiddio yng Nghymru. Diolch.