Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 19 Hydref 2022.
Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Mark Isherwood, aelodau'r pwyllgor a staff am gynnal ymchwiliad i gomisiynu cartrefi gofal mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad y comisiynydd yn ôl ym mis Rhagfyr 2021. Mae cartrefi gofal ar draws Cymru angen lefelau staffio uchel a staff ymroddedig er mwyn darparu'r gofal gorau posibl i gleifion. Er bod nifer o ofalwyr yn darparu'r gofal ymroddedig sydd ei angen, mae hefyd yn bwysig tynnu sylw at rôl nyrsys mewn cartrefi gofal yn darparu gofal mewn amgylchiadau heriol a chymhleth. Yn yr un modd, mae'n bwysig tynnu sylw at y modd y mae nyrsys mewn cartrefi gofal yn chwarae rôl yn lleihau nifer y derbyniadau i'r ysbyty, sy'n cefnogi gweithrediad y GIG ac yn rhyddhau mwy o welyau yn ein hysbytai.
Mae'n anffodus mai tua dau o bob pum cartref gofal sy'n darparu nyrsys, ac rwy'n credu'n gryf y dylai Llywodraeth Cymru annog cael mwy o nyrsys mewn cartrefi gofal. Rwy'n cydnabod bod argyfwng recriwtio nyrsio ehangach yn y GIG yng Nghymru, ac nid yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei ddatrys dros nos, ond mae'n dangos bod rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â methiant i recriwtio a methiant i gadw staff nyrsio. Rwy'n cytuno â'r pwyllgor y dylid poeni am allu cartrefi gofal i ddarparu gofal o safon uchel yn sgil prinder difrifol. Er y byddai gennym nyrsys ym mhob cartref gofal mewn byd delfrydol, ni ellir gwireddu hynny ar hyn o bryd.
Rhaid inni gydnabod y ffordd gywir yr aeth y pwyllgor ati i gydnabod rôl gwirfoddolwyr yn cynorthwyo gyda gofal preswylwyr cartrefi gofal, ond ni ddylent fod yn cymryd lle staff proffesiynol ar gyfer darparu gofal sylfaenol. Er y gall gwirfoddoli roi sgiliau i bobl ifanc ddechrau ar yrfa gydol oes mewn gofal, rhaid peidio â'u defnyddio yn lle staff proffesiynol tra bo'r Llywodraeth yn ceisio hybu recriwtio a chadw staff.
Mae cartrefi gofal yn chwarae rhan hanfodol yn sicrhau bod yr henoed a'r rhai sydd fwyaf o angen gofal yn gallu cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn amgylchedd diogel a chartrefol. Ond un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu cartrefi gofal ar hyn o bryd yw recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol. Mae angen inni wneud gyrfa mewn gofal cymdeithasol yn fwy deniadol. Fel y crybwyllwyd yn nadl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ryddhau cleifion o'r ysbyty yr wythnos diwethaf, mae staff gofal cymdeithasol yn gweithio mwy na 9 i 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener, maent yn gweithio ar benwythnosau, nosweithiau, oriau anghymdeithasol, ac yn cysgu i mewn. Maent angen i Lywodraeth Cymru gefnogi eu galwadau hwy a fy ngalwadau innau am well tâl i weithwyr gofal cymdeithasol.
Mae Llywodraeth Cymru'n codi yn y Siambr hon ac yn canmol eu hunain am dalu'r cyflog byw go iawn, ond nid yw £9.90 yn ddigon, yn enwedig o ystyried y pwysau costau byw presennol a wynebwn. Gweithwyr gofal cymdeithasol yw rhai o'r gweithwyr sy'n cael y cyflogau isaf yn y farchnad lafur, er gwaethaf eu hymroddiad i helpu ein pobl fwyaf bregus. Pe bai Llywodraeth Cymru'n rhoi'r gorau i ariannu meysydd awyr a hoff brosiectau, efallai y gallai ymdrechion i gysoni cyflogau staff gofal cymdeithasol â graddfeydd cyflog y GIG fod yn fwy cyraeddadwy. Rwy'n credu ei fod yn gyraeddadwy, a byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu mynd i'r afael â hyn eto yn ei hymateb i'r ddadl y prynhawn yma.
Os gallwn dalu'n iawn i'n nyrsys, ein gweithwyr gofal cymdeithasol a'n staff rheng flaen, byddwn yn gwneud y sector yn fwy deniadol, a byddwn hefyd yn gwella llawer o'r pryder ehangach ynghylch gofal iechyd wrth inni ymrafael â phroblem oedi wrth drosglwyddo gofal a rhoi'r gofal sydd ei angen ar bobl pan fyddant fwyaf o'i angen. Mae'n rhedeg drwy'r system gyfan, Ddirprwy Lywydd. Os gallwn wella cyfraddau rhyddhau cleifion i gartrefi gofal, byddwn yn rhyddhau gwelyau ysbyty, yn gwella amseroedd aros mewn adrannau brys ac yn chwarae ein rhan yn gwella amseroedd aros ambiwlansys. Nid wyf yn ceisio dweud mai dyma'r un llwybr diffiniol i ddatrys holl broblemau'r byd, ond rwy'n sicr yn credu y bydd yn mynd yn bell i helpu rhai o'r problemau cronig sy'n ein hwynebu yn ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru ac ar draws Cymru gyfan. Gadewch inni fod yn uchelgeisiol a gwneud popeth yn ein gallu i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i'r bobl sydd eu hangen fwyaf. Diolch