7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Comisiynu Cartrefi Gofal

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 4:56, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad i gomisiynu cartrefi gofal. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfle i siarad ar y pwnc yn y Senedd.

Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw clir at yr heriau sy'n wynebu maes cymhleth comisiynu cartrefi gofal i bobl hŷn, gyda'r bwriad o wella'r system fel ei bod yn fwy teg i bawb. Mae'n deg dweud bod yr heriau sy'n wynebu'r sector yn eang ac yn bellgyrhaeddol. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth am hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth cartrefi gofal yng Nghymru, yr amrywiadau a'r cymhlethdod sy'n gysylltiedig â chyllido lleoedd mewn cartrefi gofal, yr anawsterau a wynebir wrth ddenu a chadw staff yn y diwydiant, a'r diwygiadau polisi arfaethedig sy'n berthnasol i'r maes.

Nod argymhellion yr adroddiad yw mynd i'r afael â rhai o'r materion pwysig, ac o'u rhoi ar waith, bydd yn helpu i gryfhau a symleiddio'r broses o gomisiynu cartrefi gofal. Mae gwelliannau o'r fath yn bwysig i bob un ohonom, gan fod gofal cymdeithasol yn wasanaeth sy'n cyffwrdd â bywydau unigolion a theuluoedd ym mhob rhan o Gymru. Yn anffodus, am wasanaeth sydd mor hanfodol, nid yw gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi hanner digon. Nid yw gweithwyr yn cael y parch y maent yn ei haeddu a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y telerau ac amodau gwael. Mae'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn sôn am gyflwyno'r cyflog byw, ond fel y casglodd TUC Cymru, nid yw'n ddigon. Mae'n werth nodi y daethpwyd i'r casgliad hwn y llynedd, ac ymhell cyn i gamreoli economaidd gan y Torïaid yn San Steffan waethygu'r argyfwng costau byw, sydd wedi gwneud gofal cymdeithasol yn llai deniadol.

Caiff gweithwyr gofal gam oherwydd pethau heblaw cyflogau hefyd: mae'r telerau ac amodau'n wan. Fel y nododd y TUC hefyd, nid oes gan filoedd o weithwyr gofal yn y sector allanol hawl cytundebol i dâl salwch priodol. Maent yn amcangyfrif nad yw oddeutu 5 y cant o staff hyd yn oed yn gymwys i dderbyn tâl salwch statudol. Ar wahân i anfoesoldeb hyn, mae'n anochel y bydd y sefyllfa'n arwain at weithwyr sâl yn dod i gysylltiad â phobl fregus am na allant fforddio cymryd diwrnod yn absennol oherwydd salwch. Sut y gall hyn ddigwydd yn yr unfed ganrif ar hugain?

Gellid datrys nifer o'r problemau a nodwyd yn yr adroddiad drwy uno rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hwn wedi bod yn bolisi hirsefydlog gan Blaid Cymru ac rwy'n falch fod yna symud tuag at y nod hwn yn sgil y cytundeb cydweithio a gafwyd rhyngom ni a'r Llywodraeth. Ni all yr ymrwymiad i gael adroddiad gan grŵp arbenigol i archwilio'r gwaith o greu gwasanaeth gofal cenedlaethol, am ddim lle mae ei angen, fel gwasanaeth cyhoeddus parhaus, ddod yn ddigon buan. Drwy integreiddio gweithwyr iechyd a gofal, gallwn wella'r gydnabyddiaeth yn ogystal â'r tâl y mae'n hen bryd i weithwyr gofal cymdeithasol ei gael.

Rhaid imi sôn hefyd am ddiffyg capasiti ysbytai cymunedol yn y GIG, sy'n cael effaith ganlyniadol ar ofal cymdeithasol yn ogystal â'n gwasanaeth iechyd. Yr wythnos diwethaf, soniodd fy nghyd-Aelod ym Mhlaid Cymru Rhun ap Iorwerth am y gostyngiad yn nifer y gwelyau ysbyty yng Nghymru, o oddeutu 20,000 ar ddiwedd y 1980au i ychydig dros hanner hynny ar hyn o bryd. Gall tranc yr ysbyty cymunedol egluro'r duedd ar i lawr yn rhannol, ac mae'n cael effaith enfawr ar y GIG, gan achosi tagfeydd mewn ysbytai a mannau eraill. Rwy'n deall yr ymdrech i drin mwy a mwy o bobl gartref, gan y byddai'n well gan lawer o bobl hynny, ond i rai nid yw'n briodol, os nad ydynt yn ddigon iach neu fod ganddynt broblemau symud sy'n cyfyngu ar eu gallu i fyw gartref. Mewn amgylchiadau o'r fath, heb becyn digonol ar waith, byddant yn aros yn yr ysbyty. Byddai gwely ysbyty cymunedol yn ateb llawer gwell. Nid yw'r gwelyau hyn yn costio cymaint â gwelyau ysbytai cyffredinol dosbarth, ac rwy'n adleisio galwad Rhun ar y Llywodraeth i edrych i mewn i'r mater ar frys. Diolch yn fawr.