Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 19 Hydref 2022.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno’r ddadl hon yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron. Hoffwn groesawu’r deisebwyr i’r Siambr, yn enwedig Tassia, ac eraill sydd wedi ymgyrchu mor frwd ar y mater hwn. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, Jack Sargeant, a hefyd i gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ganser, David Rees, y gwn ei fod wedi codi’r mater hwn gyda mi ar sawl achlysur. A hoffwn roi gwybod y byddaf yn rhoi rhywfaint o fy araith yn Gymraeg.
Mae hwn yn fater pwysig iawn, a hoffwn roi sicrwydd i’r holl bobl yng Nghymru sy’n wynebu diagnosis o ganser metastatig y fron na fyddwn yn eich gadael ar ôl ar unrhyw gyfrif. Mae llawer o’r rheini sydd eisoes wedi siarad wedi egluro’r anawsterau y bydd pobl sydd wedi cael diagnosis o ganser metastatig y fron yn eu hwynebu, felly nid wyf am ailadrodd hynny, heblaw dweud fy mod yn deall, i raddau, pa mor anodd yw hi i deuluoedd yn y sefyllfa honno, gan fod teulu fy mrawd yn un o’r rhai yr effeithiwyd arnynt. Rwyf wedi gweld â fy llygaid fy hun yr effaith y mae’n ei chael, nid yn unig ar yr unigolyn sy’n dioddef, ond hefyd ar y teulu ehangach.
Ysgrifennais at y Pwyllgor Deisebau yn eithaf diweddar i egluro fy ymrwymiad i wella gwasanaethau canser ac adfer ar ôl effaith y pandemig. Ynddo, esboniais fy mod yn disgwyl i'r gwasanaeth iechyd gefnogi pobl â chanser metastatig y fron nid yn unig gyda thîm amlbroffesiynol, ond hefyd gyda mewnbwn nyrsio arbenigol yn ôl yr angen. Rwyf hefyd yn disgwyl i bawb â chanser gael asesiad cyfannol o anghenion i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Er mai cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw defnyddio’r gweithlu sydd ar gael iddynt yn unol â safonau proffesiynol ac mewn ffordd sy’n deg ar gyfer mathau eraill o ganser, rwy’n falch o ddweud bod canolfan ganser de-orllewin Cymru wedi cyflwyno nyrsio arbenigol ar gyfer canser eilaidd y fron, ac mae canolfan driniaeth canser gogledd Cymru yn y broses o wneud hynny. Mae trafodaethau pellach ar y gweill rhwng y GIG a’r trydydd sector ynghylch y posibilrwydd o swyddi yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae Rhwydwaith Canser Cymru wedi gwneud cryn dipyn o waith gyda’r trydydd sector, clinigwyr y fron a byrddau iechyd i adolygu gwasanaethau canser eilaidd y fron a phrofiad cleifion. Mae wedi datblygu cyfres o argymhellion a fydd yn cael eu cyflwyno i fwrdd y rhwydwaith eu hystyried ym mis Tachwedd.