Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 19 Hydref 2022.
Mae clinigwyr arbenigol Rhwydwaith Canser Cymru hefyd wedi nodi sut y dylid trin cleifion ledled Cymru mewn llwybr sydd wedi ei gytuno yn genedlaethol. Flwyddyn nesaf, byddwn ni'n cyflwyno archwiliad clinigol cenedlaethol o wasanaethau canser metastatig y fron i helpu i wella'r gofal mae pobl yn ei gael.