8. Dadl ar Ddeiseb P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl'

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 5:17, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion canser metastatig y fron yng Nghymru ar ôl' a gafodd 14,106 llofnod. 

Ddirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ei bod hi'n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Canser Eilaidd y Fron ddydd Iau diwethaf. Mae'r diwrnod yn nodi bod y ffordd y gwnawn ddiagnosis, y ffordd yr ydym yn trin, y ffordd yr ydym yn cefnogi a'r ffordd yr ydym yn gofalu am ganser eilaidd y fron wedi bod yn rhy araf yn rhy hir. Rwy'n credu y gall y ddadl hon heddiw wneud cyfraniad pwysig tuag at dynnu sylw at rai o'r heriau a wynebwn yma yng Nghymru. Yn ôl gwerthusiad o gymorth a gofal i gleifion a gafodd ddiagnosis o ganser metastatig y fron yn 2019, gwneir diagnosis o 2,786 achos newydd o ganser y fron bob blwyddyn, gyda 612 o farwolaethau cysylltiedig yng Nghymru bob blwyddyn—612, Ddirprwy Lywydd. Mae ffigyrau gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dweud mai canser y fron yw prif achos marwolaeth mewn menywod rhwng 35 a 64 yn y DU erbyn hyn. Mae'r ddeiseb hon yn galw am newid. Mae'r ddeiseb yn nodi fel a ganlyn:

'Mae pobl sy’n byw â chanser y fron metastatig yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso’n ddybryd gan y system. Ar hyn o bryd dim ond un nyrs glinigol arbenigol canser y fron neilltuedig sydd gan Gymru, sefyllfa a allai adael cannoedd o bobl heb ddigon o gymorth. Mae angen i ni wybod faint o bobl sy’n byw gyda chanser y fron metastatig er mwyn gwella gwasanaethau. Ac rydym am wella canlyniadau o ran ansawdd bywyd drwy godi ymwybyddiaeth o symptomau baner goch ar gyfer canser y fron metastatig.'

Ddirprwy Lywydd, cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tassia Haines, sy'n un o nifer o gleifion, ymgyrchwyr a chefnogwyr yma y prynhawn yma, yn gwylio yn yr oriel gyhoeddus, a hoffwn eu croesawu i Siambr y Senedd. Cefais y fraint o gyfarfod Tassia ddydd Llun, ac rwyf am dalu teyrnged i'r ymroddiad a'r dewrder y mae hi wedi'i ddangos drwy godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr dinistriol hwn, a thrwy neilltuo cymaint o'i hamser i ymgyrchu dros welliannau a fydd ond o fudd i eraill.

Nawr, rwy'n gwybod bod y Dirprwy Lywydd, Dai Rees, yn rhannu fy sylwadau am Tassia, gan ei fod wedi gweithio'n agos gyda hi yn ei rôl ei hun fel Aelod o'r Senedd dros Aberafan. Fel y dywed Tassia, yn ei llythyr agored at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rwy'n dyfynnu, Ddirprwy Lywydd:

'Yn anffodus, bûm yn byw gyda chanser metastatig y fron ers dros ddwy flynedd er mai dim ond deg ar hugain oed ydw i. Rwy'n cael triniaeth gan ddau fwrdd iechyd ac wedi cyfarfod â phobl sy'n cael triniaeth o bob cwr o Gymru, ac yn anffodus mae'n rhaid imi eich hysbysu fod Cymru'n methu pan ddaw'n fater o ddiwallu anghenion cleifion canser metastatig y fron, yn ôl yr hyn a welwn ni—y bobl sy'n marw o'r clefyd a'r bobl agos sy'n cefnogi'r rhai sydd â chanser metastatig y fron.'

Mae deiseb Tassia, a'r ymgyrch ehangach, yn galw am dri pheth. Yn gyntaf, casglu data gwell am bobl sy'n byw yng Nghymru gyda chanser eilaidd y fron nad oes modd ei wella. Ar hyn o bryd, nid yw System Gwybodaeth Rhwydwaith Canser Cymru yn adrodd ar nifer y cleifion sydd wedi cael diagnosis o'r clefyd metastatig. Mae'r ymgyrch hon yn gofyn am system ganolog i Gymru a fydd yn casglu manylion holl gleifion canser eilaidd y fron yn y wlad. Yn ail, gwell ymwybyddiaeth o symptomau baner goch canser metastatig y fron. Ceir diffyg dealltwriaeth ymhlith cleifion canser cynradd y fron ynglŷn â sut i ddweud bod canser wedi lledaenu y tu hwnt i'r fron, ac mae'r ymgyrch hon am i gleifion cynradd a meddygon teulu gael mwy o fanylion ynglŷn â sut i adnabod y symptomau baner goch hyn er mwyn gwella diagnosis cynharach. Ac yn drydydd ac yn bwysig, Ddirprwy Lywydd, gwell gofal i gleifion. Mae'r ymgyrch eisiau i bob claf yng Nghymru gael mynediad at nyrs canser metastatig y fron wedi'i hyfforddi'n arbennig, sydd â llwyth gwaith yn canolbwyntio ar gleifion canser metastatig y fron yn unig, ac mae'r ymgyrchwyr yn teimlo y gall hynny fod yn gosteffeithiol i'r GIG trwy atal derbyniadau i'r ysbyty, er enghraifft.

Ddydd Llun, nid Tassia'n unig a gyfarfûm, cefais y fraint o gyfarfod â chleifion a nyrsys eraill, a bwysleisiodd fod rhaid inni ddeall, Aelodau—rhaid inni ddeall bod canser cynradd y fron a chanser eilaidd y fron yn wahanol, ac felly, mae angen darpariaeth gofal iechyd wahanol arnynt. Fe wnaethant bwysleisio bod angen cefnogaeth ar unigolion ar yr adeg anoddaf yn eu bywydau pan gânt ddiagnosis o salwch terfynol, ac mae angen cefnogaeth wedi'i deilwra i unigolion trwy gydol triniaeth barhaus hyd at ofal lliniarol.

Nawr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi ymrwymo i hybu gwelliannau mewn gofal canser yng Nghymru. Mae safon ansawdd newydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni, yn amlinellu sut olwg fydd ar ofal da yn y dyfodol. Yn ddiweddarach eleni, rydym yn disgwyl gweld cynllun gweithredu ar gyfer canser dan arweiniad y GIG yn cael ei gyhoeddi, i roi rhagor o fanylion i'r weledigaeth o ofal sy'n cael ei arwain gan gleifion i ddioddefwyr canser. Ond gyda hynny i gyd mewn cof, Ddirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at glywed gan gyd-aelodau o'r Pwyllgor Deisebau, cyd-Aelodau, ac wrth gwrs, gan y Gweinidog iechyd, i glywed am y datblygiadau diweddaraf ym maes gofal canser, ac i ymateb y benodol i dair prif alwad y ddeiseb, a sut y gallwn helpu'r bobl sydd angen y gefnogaeth honno fwyaf. Diolch yn fawr.