8. Dadl ar Ddeiseb P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl'

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:34, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Pan fydd cleifion canser metastatig y fron yn dweud wrthym eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu hesgeuluso, mae'n rhaid inni gydnabod eu bod yn cael eu hesgeuluso, a hoffwn dalu teyrnged i Tassia a phawb sy'n ymgyrchu ar ran cleifion ddoe a heddiw. Ond y peth allweddol i'w gofio yma yw y bydd cleifion yn y dyfodol hefyd, a drostynt hwy y mae'r ymgyrchwyr yn ymgyrchu. Dyna pam eu bod yn deisebu. Dyna pam eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso gan ymateb presennol Llywodraeth Cymru. Gwyddom beth yw’r gofynion, gwyddom fod angen y swyddi nyrsio allweddol hynny, a gwyddom fod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith i roi’r cyfle i gleifion y dyfodol gael y driniaeth orau bosibl a’r gobaith gorau o oroesi.