1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Hydref 2022.
2. A wnaiff y Prif Weinidog nodi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd? OQ58597
Llywydd, prynhawn da i Dr Hussain. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn gwbl groes i ddull trychinebus y Llywodraeth Geidwadol ddiweddaraf. Ochr yn ochr â busnesau ac mewn partneriaeth â nhw, rydym ni'n buddsoddi yn y seilwaith ffisegol sy'n hyrwyddo buddsoddiad a'r cyfalaf dynol sy'n gwella cynhyrchiant.
Ym mis Mawrth y llynedd, cyhoeddodd eich Llywodraeth ei 'Chynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru—Llif Prosiectau', yn cyflwyno amrywiaeth o fuddsoddiadau mewn cymunedau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai yr oedd awdurdodau lleol wedi ymrwymo iddyn nhw. Er fy mod i'n croesawu'r ymgais i nodi'r gweithgareddau hyn, mae'n amlwg bod amrywiaeth o heriau mawr bellach yn wynebu de'r wlad nad ydyn nhw'n cael sylw, ac nid lleiaf y tagfeydd parhaus ar yr M4 yn nhwneli Brynglas yng Nghasnewydd. Mae CBI Cymru wedi dadlau ers amser maith dros roi sylw i hyn er budd ein ffyniant a'n cyflogaeth yn ne a gorllewin Cymru. Yr wythnos hon hefyd yw Wythnos Genedlaethol Lorïau y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, a lansiwyd ganddyn nhw yn fy rhanbarth i ddoe. Dywedodd cludwyr ar y ffyrdd wrthyf i yn y lansiad bod oedi o amgylch Casnewydd yn aml yn gwthio gyrwyr dros eu horiau penodedig a bod y diffyg parciau lorïau hefyd yn cael effaith. Prif Weinidog, yn absenoldeb gwneud y peth iawn ac adeiladu ffordd liniaru, pa atebion amgen sydd gennych chi ar y gweill i ddatgloi'r cysylltiad hanfodol hwn i Gymru a gwella'r sefyllfa i gludwyr ar y ffyrdd Cymru? Diolch.
Llywydd, nid wyf yn bwriadu ail-fyw mater sydd wedi ei hen setlo yma yng Nghymru. Fe wnaeth y Blaid Geidwadol gyflwyno eu hachos i'r bobl yng Nghymru yn etholiad diwethaf y Senedd. Roedd adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn addewid blaenllaw a wnaeth Plaid Geidwadol Cymru, a methodd eich plaid ag ennill yr un sedd—yr un sedd—ar hyd yr M4 gyfan yn ne Cymru. Felly, os ydych chi'n credu bod eich dadl yn un gadarn, gallwch chi barhau i'w chyflwyno i bobl yng Nghymru, a byddwch yn parhau i gael yr un ateb.
Yr hyn rydym ni'n ei wneud yw bwrw ymlaen â chynigion comisiwn Burns—cyfres o gamau ymarferol y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â thagfeydd wrth yr M4. Byddwn yn cwblhau'r gwaith o ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, fydd yn golygu y bydd traffig trwm sy'n dod o ganolbarth Lloegr yn gallu mynd yn uniongyrchol i dde-orllewin Cymru heb orfod dod i lawr a mynd trwy Gasnewydd. Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, Llywydd, ceir her fawr sy'n wynebu Llywodraeth y DU nawr. Lansiodd Llywodraeth Johnson adolygiad cysylltedd y DU. Fe wnaethon ni roi tystiolaeth i adolygiad Syr Peter Hendy—nid wyf i'n credu bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwneud hynny—ac fe wnaethon ni hyrwyddo yno'r buddsoddiad sydd ei angen i wella'r ail reilffordd, yr ail brif linell, i lawr o dde Cymru, er mwyn gallu tynnu traffig oddi wrth yr M4 ac fel bod gan bobl well dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus amgen. Fe wnaeth adolygiad Hendy gymeradwyo'r ddadl yr ydym ni wedi ei gwneud, ac, i fod yn deg, mae Llywodraeth y DU wedi darparu swm bach o arian i ddatblygu'r syniadau a gymeradwywyd gan adolygiad Hendy. Nawr fe fydd penderfyniad mawr. Fe gawn ni weld a fydd Prif Weinidog diweddaraf y DU yn bwrw ymlaen â'r addewidion a wnaed yn adolygiad cysylltedd y DU a dangos eu bod nhw'n barod i fuddsoddi yng Nghymru, fel y gellir mynd i'r afael yn briodol â rhai o'r materion y mae Dr Hussain wedi'u crybwyll.
Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn bwriadu dweud 'yr un sedd etholaeth ar hyd yr M4'.
Beth ddywedais i?
Fe ddywedoch chi 'yr un sedd'.
Yr un sedd etholaeth—mae'n ddrwg gen i.
Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ofni bod ymdrechion i hybu twf wedi cael eu tanseilio'n angheuol gan yr hyn mae'r Torïaid wedi ei wneud i'n heconomi, ac rwy'n pryderu am y posibilrwydd o golli swyddi a'r niwed y bydd hynny'n ei olygu nid yn unig i'n heconomi, ond i fywydau pobl. Mae busnesau ar draws fy rhanbarth dan bwysau gyda biliau ynni cynyddol a chwyddiant. Canfu mynegai busnesau bach Ffederasiwn y Busnesau Bach yn ddiweddar bod hyder busnesau wedi plymio, wrth iddyn nhw wynebu costau cynyddol a refeniw gostyngol, ac mae cyflogeion sector cyhoeddus hefyd yn wynebu'r posibilrwydd o don newydd o hyper-gyni, gydag arweinwyr cynghorau a Gweinidogion yn rhybuddio bod y sefyllfa ariannol yn ddifrifol. Felly a wnewch chi sicrhau'r Senedd, Prif Weinidog, y byddwch chi'n gwneud popeth o fewn eich gallu i ddiogelu swyddi yng Nghymru dros y cyfnod sydd i ddod, ac egluro pa drafodaethau y byddwch chi'n eu cael gyda chynrychiolwyr busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i geisio osgoi colli swyddi?
Diolch i Delyth Jewell am y cwestiwn yna, Llywydd, oherwydd mae'n iawn: ar unrhyw ddarlleniad rhesymol o'r prosbectws presennol, mae colledion swyddi yn dod i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig. Rwy'n credu i mi ddweud ar lawr y Senedd yn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, pe baem ni'n gweld toriadau i wariant cyhoeddus o'r math sy'n tynnu dŵr i'r llygaid a addawyd gan Ganghellor y Trysorlys, yna bydd hynny'n arwain at golli cannoedd, os nad miloedd, o swyddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n gwbl anochel. Mae tua 50 y cant i 56 y cant o'r holl arian sy'n cael ei wario yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wario ar bobl; cyflogi pobl i wneud y swyddi y mae pobl eraill wedyn yn dibynnu arnyn nhw. Os bydd toriadau i'r cyllidebau hynny, yna bydd y swyddi hynny'n cael eu colli. Mae'n gwbl anochel, a bydd yn ganlyniad uniongyrchol o orfod ymdrin â chanlyniadau trychinebus y Prif Weinidog mwyaf byrhoedlog yn hanes y DU.
Eto, mae Delyth Jewell yn iawn i gyfeirio at y ffaith bod y pwysau hynny'n ymddangos yn y sector preifat yn ogystal ag yn y sector cyhoeddus. Mae Banc Lloegr yn dweud bod economi'r DU eisoes mewn dirwasgiad a bydd yn codi cyfraddau llog eto ym mis Tachwedd er gwaethaf y ffaith y bydd, o dan unrhyw amgylchiadau eraill, yn torri cyfraddau llog er mwyn cefnogi economi sy'n crebachu, a bydd hynny'n rhoi pwysau mawr ar gyflogaeth yn y sector preifat hefyd.
Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol ac yn y GIG i sicrhau, y gorau gallwn ni, bod pa bynnag effaith a ddaw o'r datganiad ar 31 Hydref cyn lleied â phosibl. Ac rydym ni'n gweithio gyda'n cyflogwyr mawr hefyd, y mae gan lawer ohonyn nhw gynlluniau i ehangu cyflogaeth yma yng Nghymru, oherwydd yr agwedd y mae Llywodraeth Cymru yn ei chymryd i'r materion hyn. Maen nhw'n deall ein bod ni'n bartneriaid gyda nhw, yn y busnes o'u helpu. Meddyliwch, Llywydd, am eiliad, am Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru yn y gogledd, a adeiladwyd gyda £20 miliwn o arian Llywodraeth Cymru, a'r rheswm pam mae Wing of Tomorrow yn cael ei adeiladu gan Airbus yn y gogledd; y rheswm pam, gyda'r sector bwyd a diod yn y gogledd, mae gennym ni brosiect Ffatri'r Dyfodol wedi'i leoli yn yr AMRC—oherwydd ein bod ni'n deall, mewn ffordd nad yw'r Torïaid byth yn ei ddeall, fod buddsoddiad cyhoeddus sy'n cael ei ddefnyddio'n briodol yn denu buddsoddiad preifat, ac ddim yn ei gau allan, a'i bod yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth i fuddsoddi mewn sgiliau gweithlu sy'n dod â chyflogaeth i Gymru yn y dyfodol. Dyna hanes Airbus; dyna hanes y clwstwr seiberddiogelwch yn y de. Maen nhw'n enghreifftiau o'r ffordd y gall agwedd synhwyrol at dwf economaidd wneud i bethau ddigwydd, yn union fel rydym ni wedi gweld beth all agwedd drychinebus tuag at dwf economaidd ei wneud i ragolygon y wlad ar gyfer y dyfodol.
Wrth gwrs, y tro diwethaf i ni gyfarfod, Prif Weinidog, roedd y Torïaid yn dweud wrthym ni mai Liz Truss oedd y Prif Weinidog gorau i ni ei gael erioed ac nad oedd hi'n bosibl herio polisi economaidd y Ceidwadwyr. Rydym ni wedi gweld rhywfaint o newid i hynny yn ystod y dyddiau diwethaf. Ond, yr hyn nad ydym wedi ei weld, wrth gwrs, yw unrhyw newid yn realiti anallu economaidd y Torïaid, sy'n golygu nad yw Cymru'n cael y buddsoddiad a ddylai ddod i ni. Mae pobl Blaenau Gwent eisiau gweld buddsoddiad yn rheilffordd Glynebwy, ond dydyn nhw ddim yn ei gael gan nad yw'r rheilffyrdd wedi'u datganoli, ac ni wnaiff y Torïaid fuddsoddi yng Nghymru.
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r hyn sydd angen i ni ei weld yw nid yn unig newid Llywodraeth, ond mae angen i ni weld newid agwedd gan Drysorlys y DU sy'n golygu bod gwledydd fel Cymru a'r Alban, a gogledd Lloegr, yn cael yr un flaenoriaeth a buddsoddiad â Llundain a de-ddwyrain Lloegr?
Wel, Llywydd, wrth gwrs rwy'n cytuno ag Alun Davies mai'r hyn sydd ei angen ar y wlad hon yw etholiad cyffredinol—cyfle i bob plaid wneud eu dadleuon i bobl ac i'r bobl benderfynu beth maen nhw'n ei gredu yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae'r etholiad cyffredinol hwnnw'n anghenraid democrataidd, ond mae hefyd yn anghenraid economaidd oherwydd mae angen Llywodraeth arnoch chi sydd â mandad ac â'r sefydlogrwydd i wneud y penderfyniadau anodd sydd yn ddiamheuaeth yno i'w gwneud. Pe bai gennym ni'r cyfle hwnnw, rwy'n credu nid yn unig y byddai Cymru ar ei hennill, ond byddai'r Deyrnas Unedig, wrth gwrs, ar ei hennill hefyd.
O ran y pwynt y mae'r Aelod wedi ei wneud am y Trysorlys, mae gen i ofn fy mod i wedi credu ers tro bod y Trysorlys, wedi'i yrru gan fformiwla Barnett, yn Drysorlys i Loegr yn ei hanfod, a bod rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn syml, yn cael canlyniadau penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y ffordd honno. Mae angen Trysorlys arnom ni sy'n barod i wneud y penderfyniadau sy'n cydnabod gwahanol anghenion y Deyrnas Unedig ac sy'n barod i fuddsoddi yn y ffordd honno. Gadewch i ni roi un enghraifft o ba mor wahanol yr ystyrir pethau yn Llundain a chan y blaid Geidwadol: byddai'r pecyn o doriadau treth a wnaed gan Liz Truss, sydd bellach wedi cael eu tanseilio, wedi arwain at dair gwaith—[Torri ar draws.]
Iawn, gadewch i ni glywed y Prif Weinidog yn gorffen ei ateb i'r cwestiwn.
Diolch, Llywydd. Y cwbl rwy'n ei wneud yw egluro pwysigrwydd y pwynt a wnaeth Alun Davies. Pe bai Llywodraeth Liz Truss wedi cael eu ffordd, byddai'r toriadau treth hynny wedi darparu tair gwaith cymaint i Lundain a'r de-ddwyrain nag y bydden nhw wedi ei ddarparu i Gymru neu i ogledd Lloegr. Roedden nhw, wrth gwrs, yn falch iawn o gefnogi hynny i gyd dim ond pythefnos yn ôl, yn union fel heddiw, mae'n siŵr eu bod nhw'n falch o droi eu cefnau ar y cyfan fel pe na bai erioed wedi digwydd. Ond, y pwynt y mae Alun Davies yn ei wneud yw hynny'n union: mae angen Trysorlys arnom ni sy'n barod i feddwl am anghenion y wlad yn ei chyfanrwydd, nid Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn unig.