Prentisiaethau Gradd

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative

3. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith rhaglen prentisiaethau gradd Llywodraeth Cymru ar niferoedd mynediad am brentisiaethau gradd? OQ58629

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:11, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, ers i'r rhaglen prentisiaeth gradd ddechrau yng Nghymru yn 2018, rydym ni wedi sicrhau cynnydd o fwy na phum gwaith i gofrestriadau. Yn y flwyddyn academaidd bresennol, mae 780 o brentisiaethau yn gweithio i ennill cymwysterau lefel gradd ym meysydd digidol, ynni a gweithgynhyrchu uwch.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Mae'n ddiddorol, yr hyn a ddywedoch chi, a hoffwn nodi bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi prentisiaethau gradd yn llawn, ac, a dweud y gwir, rydym ni'n mynd ymhellach na'r polisi presennol. Ond, Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, sefais yma a chodais rai ystadegau pryderus yn amlygu mai gwrywod dosbarth gweithiol gwyn yw'r rhai lleiaf tebygol o fynd i'r brifysgol ar draws y DU, ond mae'r darlun yn waeth yng Nghymru. Fe wnaethoch chi awgrymu nad oedd y broblem cynddrwg ag y dywedais i, gan geisio esgusodi'r ffigurau. Fe ddywedoch chi, ac rwy'n dyfynnu:

'Ni fydd ein rhaglen prentisiaethau gradd yn cael ei chyfri yn y ffigurau y mae'r Aelod wedi'u hawgrymu y prynhawn yma', fel pe bai hynny rhywsut yn gwneud i'r sefyllfa edrych yn well. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2019-20, roedd 380 o brentisiaid newydd a pharhaus yn y rhaglen prentisiaeth gradd. Yn yr un cohort, aeth 83,800 o fyfyrwyr o Gymru i'r brifysgol—453 y cant yn fwy na'r nifer sy'n dilyn prentisiaethau gradd; dim ond 0.45 y cant o 83,800 yw 380. Prif Weinidog, mae'n gwbl eglur o'r ystadegau y byddai prentisiaethau gradd, hyd yn oed pe baen nhw'n cael eu cynnwys yn y ffigurau, a'ch ffigurau newydd a amlinellwyd gennych chi nawr, yn gwneud ychydig iawn o wahaniaeth i'r niferoedd cyffredinol hynny a amlinellais. Felly, Prif Weinidog, mae'r broblem yn parhau: rydym ni'n gweld niferoedd isel o dderbyniadau prifysgol ymhlith dynion dosbarth gweithiol gwyn. Sut yn union ydych chi'n ceisio unioni'r sefyllfa, ac, eto, pa atebion ymarferol ydych chi'n mynd i'w rhoi ar waith i sicrhau nad yw'r duedd honno'n parhau?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:12, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, rwyf i wedi mwynhau cyfraniad diweddaraf Laura Anne Jones at ei hymgyrch arweinyddol, ond mae'n rhaid i mi ddweud hyn wrthi: y bydd angen iddi arafu ar y niferoedd er mwyn caniatáu i bobl ddilyn y pwyntiau y mae hi'n eu gwneud. Rwy'n edrych ymlaen at ddarllen y trawsgrifiad fel y gallaf ddilyn y ddadl yr oedd hi'n ei gwneud yn well.

Mae'r rhaglen brentisiaeth—y rhaglen prentisiaeth gradd—Llywydd, wedi ei chynllunio i ganolbwyntio, fel y dywedais i yn fy ateb, ar y meysydd hynny lle mae gennym ni anghenion arbennig yn economi Cymru—digidol, ynni a gweithgynhyrchu uwch yn eu plith—meysydd lle, yn hanesyddol, y mae menywod wedi cael eu tangynrychioli ond mae dynion ifanc gwyn yn sicr yn y mwyafrif ac, er gwaethaf ein hymdrechion i ddenu menywod ifanc i'r meysydd hynny drwy'r rhaglen prentisiaeth gradd, mae hynny'n parhau i fod yn wir.

Ond yr hyn sy'n bwysicach o ran y cwestiwn a ofynnwyd i mi, Llywydd, yw a ydym ni'n denu drwy'r llwybr prentisiaeth gradd pobl ifanc na fyddai fel arall mewn addysg uwch. Rwy'n cael fy nghalonogi bod dros 57 y cant o'r bobl ifanc hynny sy'n dod i ddilyn prentisiaethau gradd yng Nghymru yn dod o deuluoedd lle nad oes rhiant erioed wedi bod mewn addysg uwch. Mewn geiriau eraill, rydym ni'n recriwtio drwy'r llwybr hwnnw pobl na fyddai mor debygol o gael profiad addysg uwch drwy'r llwybrau confensiynol. Ac yn yr ystyr hwnnw, rwy'n falch bod yr Aelod wedi croesawu'r rhaglen prentisiaeth gradd, oherwydd rwy'n meddwl—nid wyf i'n credu fy mod i wedi ei dilyn hi'n llwyr yma, ond rwy'n meddwl, pan fyddaf yn astudio ei ffigurau, y byddaf yn gweld, mewn gwirionedd, ei bod yn gwneud yr hyn y mae hi eisiau iddi ei wneud; mae'n cyrraedd y rhannau hynny o'r gymuned y mae llwybrau mwy confensiynol i addysg uwch yn methu â sicrhau'r treiddiad yr hoffem ni ei weld.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:15, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Ddydd Gwener yma, byddaf yn ymweld â Grŵp DRB yn fy etholaeth fy hun, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, ac rwy'n falch o fod wedi cwblhau fy mhrentisiaeth mewn gweithgynhyrchu uwch yn DRB, gyda chymorth Llywodraeth Lafur Cymru. Rwyf i hefyd yn hynod ddiolchgar i'r cwmni am ariannu fy ngradd rhan amser tra'r oeddwn i yno. Cyn i mi ymweld a dychwelyd i fy hen weithle, byddaf yn siarad mewn cynhadledd prinder sgiliau, a drefnwyd gan Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy. Pa neges gaf i ei hanfon gennych chi, fel Prif Weinidog Cymru, i'r gynhadledd, i gwmnïau fel Grŵp DRB yn Alun a Glannau Dyfrdwy, am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi'r sgiliau i'r gweithlu nesaf i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion diwydiannol gwyrdd yn y gogledd-ddwyrain?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Jack Sargeant am hynny a'i longyfarch, wrth gwrs, ar y ffordd y daeth ef ei hun drwy'r system brentisiaeth honno a gwneud hynny'n llwyddiannus. Yr hyn y gallwch chi ei ddweud yn eithaf sicr wrth y fforwm busnes yw bod ganddyn nhw, yng Nghymru, Lywodraeth sy'n deall yn iawn y cyfrifoldeb sydd gennym ni i fuddsoddi yn y sgiliau a fydd yn caniatáu i fusnesau yn y rhan honno o Gymru i barhau i ffynnu. Mae diweithdra, Llywydd, yng Nghymru ar ei isaf yn y gogledd-ddwyrain. Fe wnes i gyfarfod â chwmnïau yn ardal Glannau Dyfrdwy pan oeddwn i yn y gogledd dim ond cwpwl o wythnosau yn ôl. Maen nhw'n gwybod ei bod hi'n farchnad gystadleuol i ddenu, yn enwedig, pobl ifanc i fanteisio ar y cyfleoedd gwaith sydd ar gael iddyn nhw, ac roedden nhw'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ac yn enwedig y darparwyr llawr gwlad hynny—Coleg Cambria ac eraill—y pethau y maen nhw'n eu gwneud i alinio'r rhaglenni y maen nhw'n eu darparu gydag anghenion y dyfodol diwydiannol gwyrdd gwych hwnnw rydym ni eisiau ei greu yma yng Nghymru. A byddwn yn ddiolchgar iawn i Jack Sargeant pe gallai, ar ein rhan ni, ar ran Llywodraeth Cymru, atgyfnerthu, gyda'r fforwm busnes hwnnw, ein penderfyniad i barhau i weithio ochr yn ochr â nhw a'r system addysg i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynhyrchu pobl ifanc sydd â'r sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw i greu dyfodol llwyddiannus iddyn nhw eu hunain, ac i gyfrannu at y cyflogwyr gwych hynny sydd gennym ni yng ngogledd-ddwyrain Cymru.