6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:40, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i chi am roi cyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Pan wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ddiwethaf ym mis Medi, roedd Cymru wedi croesawu ychydig dros 5,600 o Wcreiniaid i Gymru o dan gynllun Cartrefi i Wcráin, gan gynnwys o dan ein llwybr uwch-noddwr.

Mae rhai yn dal i gyrraedd, ond ar gyflymder llawer arafach yn ystod yr wythnosau diwethaf. Roedd ychydig dan 6,000 o Wcreiniaid a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ac aelwydydd Cymru wedi cyrraedd Cymru erbyn 18 Hydref, a daeth rhai ychwanegol o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin, ond ni roddir y data hwnnw i ni gan Lywodraeth y DU. Mae mwy na 8,300 o fisâu bellach wedi'u rhoi i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, felly gallwn ddisgwyl i nifer y bobl sy'n cyrraedd barhau i dyfu'n raddol yn ystod yr wythnosau nesaf, ac rydym yn ymwybodol y gall digwyddiadau yn Wcráin gael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid a allai gyrraedd Cymru. Rydym yn gresynu at ymdrechion diweddaraf Putin i geisio torri ysbryd pobl Wcráin. Rydym yn parhau i weithio gyda'r Swyddfa Gartref i ganfod pa mor debygol yw hi y bydd yr 1,600 o unigolion ychwanegol yr ydym wedi eu noddi yn cyrraedd Cymru, fel y gallwn gynllunio'n iawn ar gyfer darparu llety a chefnogaeth gofleidiol.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn ystyried y cynnig a wnawn i Wcreiniaid yr ydym yn eu cefnogi yn ein llety o dan y llwybr uwch-noddwr. Rwyf i a chyd-Weinidogion eraill wedi ymweld â nifer o'n safleoedd llety ac wedi cael adborth yn uniongyrchol gan westeion o Wcráin a'r staff ymroddedig sy'n ein helpu i roi'r cymorth. Rydym eisiau helpu pobl i symud o sefyllfa o groeso cefnogol i sefyllfa o integreiddio gweithredol cyn gynted â phosibl.

Rydym yn credu y gallwn wella annibyniaeth bersonol a chefnogi pobl i symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau yng Nghymru drwy ailedrych ar ein cynnig cefnogaeth gofleidiol. Byddwn ni'n alinio ein cynnig llety cychwynnol yn llawer agosach â'r gefnogaeth a geid mewn mathau eraill o lety dros dro, a bydd hyn yn annog gwesteion i gyfrannu at gostau drwy enillion neu gredyd cynhwysol pryd bynnag y bo modd, ar ôl cyfnod byr cychwynnol. Rwyf hefyd wedi ymgysylltu â fy Ngweinidog cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban, y Gweinidog Neil Gray ASA, ac rwy'n deall y byddan nhw'n cymryd agwedd debyg iawn, wrth i ni ddysgu o brofiadau ein gilydd yn ein hymateb fel uwch-noddwyr.

Mae ein llwybr uwch-noddwr yn rhan allweddol o ymateb Cymru i argyfwng dyngarol Ewrop gyfan. Rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n ddiwyro yn ein hymrwymiad i gefnogi Wcráin ac Wcreiniaid dadleoledig sy'n byw yng Nghymru, er gwaethaf y pwysau cynyddol o ran costau yr ydym ni i gyd yn ei brofi. Bydd y gefnogaeth yr ydym ni'n ei darparu yma yn cael effaith ar y teulu a ffrindiau sy'n dal i amddiffyn Wcráin. Bydd y newidiadau a wnawn yn cydbwyso'n ofalus y cymorth i bobl i fod yn fwy annibynnol, er mwyn symud ymlaen i lety arall yn gyflymach, a sicrhau bod gennym y cyllid sydd ei angen arnom i gyflawni ein hymrwymiad i'r Wcreiniaid yr ydym wedi eu noddi.

Yn ogystal â fy ymweliadau â chanolfannau croeso, bûm yn ddiweddar yng ngŵyl gelfyddydau Wcráin a chanolfan newydd Wcráin yng Nghaerdydd. Ym mhob achos, rwyf wedi cael fy nharo gan awydd a gallu Wcreiniaid, gydag ystod eang o sgiliau a phrofiad, i integreiddio ac ymuno â'r gweithlu cyn gynted â phosibl. Mae llawer o Wcreiniaid eisoes yn gweithio, gan gynnwys cyfran sylweddol o'r rhai yn ein llety cychwynnol.

Mae angen i ni fod yn ymwybodol y dylai llety cychwynnol fod yn ddarpariaeth tymor byr, gyda'n gwesteion yn cael cymorth i symud ymlaen i lety mwy hirdymor cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Deallwn fod ein canolfannau croeso, sydd wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, o ansawdd da—ac rydym ni'n falch o hynny—ond dydyn nhw ddim yn ddewis hirdymor i bobl, yn bennaf oherwydd na ellir sefydlu gwreiddiau'n iawn mewn cymunedau mewn llety dros dro o'r fath.

Y tro diwethaf i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, soniais am y berthynas waith dda a gawsom gyda Gweinidog blaenorol y DU dros Ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, a fy ngobeithion am berthynas debyg gyda'i olynydd. Mae'n ddrwg gen i orfod adrodd nad ydym wedi cael unrhyw ymgysylltiad gan Weinidogion y DU ar y materion hyn ers ymddiswyddiad yr Arglwydd Harrington.

Ond rydym mewn cyfnod tyngedfennol yng nghynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU. Mae aelwydydd Cymru a gofrestrodd yn noddwyr yn agos at gyrraedd y garreg filltir chwe mis sy'n cynrychioli'r ymrwymiad a wnaethant i'w gwesteion ar adeg y cais. Mae'r aelwydydd hyn wedi gwneud peth ysbrydoledig ac wedi ymgorffori gweledigaeth cenedl o noddfa yn ei gwir ystyr. Rydym yn gwybod nad oedd llawer yn bwriadu parhau y tu hwnt i chwe mis, ond rydym yn annog cymaint â phosibl o'r rhai sy'n cynnig llety i ystyried cynnig llety am gyfnod hirach os yw'n bosibl o gwbl. Pan nad yw hynny'n bosib, diolchwn am bopeth yr ydych chi wedi'i wneud i'ch gwesteion ac i ni fel cenedl. I'r rhai sy'n gallu parhau, rydym wedi ariannu Cyfiawnder Tai Cymru i ddarparu cyngor, hyfforddiant, cefnogaeth gan gymheiriaid a gwasanaethau cyfryngu i'r rhai sy'n cynnig llety yng Nghymru. Ceir mwy o wybodaeth drwy ffonio 01654 550 550 neu drwy anfon neges e-bost i UkraineHostSupport@housingjustice.org.uk.

Rydym yn gwybod bod y rhai sy'n cynnig llety yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd gyda phwysau costau byw, ac mae hyn yn ffactor pwysig wrth benderfynu a oes modd iddyn nhw barhau. Dyma pam yr ysgrifennais at Weinidogion y DU, gyda fy Ngweinidog cyfatebol yn yr Alban, i annog penderfyniad cyflym ar gynyddu'r taliad 'diolch' i'r rhai sy'n cynnig llety i o leiaf £500 y mis o'r lefel bresennol o £350. Rydym yn dal i aros am ddiweddariad ar hyn. Mae angen penderfyniad brys arnom i osgoi ton o achosion o ddigartrefedd wrth i ni symud i fis Tachwedd, ac rwy'n galw eto ar Lywodraeth y DU i weithredu ar hyn, yn ogystal â rhoi sicrwydd ariannol i flwyddyn 2 y rhaglen, gan gefnogi'r ddarpariaeth Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill heb ei ariannu a sicrhau cydraddoldeb cyllido ar draws tri chynllun fisa Wcráin.

Rydym bellach yn cyfathrebu'n rheolaidd gyda'r rhai sy'n cynnig llety a gwesteion o Wcráin, gyda chylchlythyr misol yn cael ei anfon o Lywodraeth Cymru, a byddwn yn adeiladu ar hyn gyda sesiynau gwybodaeth ychwanegol a chyfleoedd i gymryd rhan. Ochr yn ochr â'n partneriaid trydydd sector a ariennir, fe wnaethom gynnal sesiwn wybodaeth agored yn ddiweddar, yr oeddwn yn falch o weld tua 180 o bobl yn bresennol i glywed mwy am ein gwaith; rydym yn rhoi grŵp cymorth gan gymheiriaid Wcráin ar waith drwy Displaced People in Action; a byddwn hefyd yn arolygu ein gwesteion o Wcráin yn fuan er mwyn deall yn well eu sgiliau a'u hanghenion cyflogaeth sydd heb eu diwallu. Mae Wcreiniaid yn amlwg yn integreiddio'n dda iawn yn wir, ond byddwn yn parhau i ystyried unrhyw gamau y gallwn eu cymryd i wneud hyn mor effeithiol a chefnogol â phosibl. Diolch.