6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:47, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad ac am ein cyfarfod byr yn gynharach, a oedd yn ddefnyddiol iawn.

Wrth ymateb i'ch diweddariad ar ddatganiad Wcráin yma bedair wythnos yn ôl, cyfeiriais at eich perthynas adeiladol, yr ydych chi wedi cyfeirio ati eto, gyda Gweinidog blaenorol Llywodraeth y DU dros ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, a gofyn sut, ar sail perthnasoedd gweithio ymarferol rhyng-lywodraethol yng Nghymru, wnaethoch chi ymateb i'w ddatganiad adeg ei ymddiswyddiad fis diwethaf sef bod y swyddogaeth i fod yn un dros dro a bod ei waith yn ei hanfod yn gyflawn. Gofynnais hefyd pa drafodaethau yr oeddech wedi'u cael neu'n bwriadu eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynnydd posibl i'r taliad misol o £350 i bobl sy'n lletya Wcreiniaid yn eu cartrefi eu hunain, ac unwaith eto rydych chi wedi cyfeirio at hynny yn eich datganiad heddiw. Yn eich ymateb chi bryd hynny, fe ddywedoch chi nad oedd y gwaith wedi ei gyflawni. Gan gyfeirio at y llythyr ynglŷn â'r materion hyn yr oeddech wedi'i anfon ar y cyd gyda'ch Gweinidog cyfatebol yn yr Alban at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar y pryd a'r Ysgrifennydd Cartref newydd ar y pryd, fe ddywedoch chi y byddech chi, ac rwy'n dyfynnu,

'â diddordeb mawr mewn gweld pa ateb a gawn'.

Diolch am fy nghopïo i mewn i'r llythyr hwnnw wedyn. Pa ateb, os o gwbl, gawsoch chi? Ac os, o ystyried digwyddiadau mewn mannau eraill, nad ydych chi wedi cael ateb eto, sut fyddwch chi'n ymateb ar ôl i'r Prif Weinidog Rishi Sunak gyhoeddi ei Gabinet?

Yn eich ateb i mi, fe ddywedoch fod arweinyddiaeth leol yn hanfodol bwysig yn narpariaeth y gwasanaeth datganoledig y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano. Yn dilyn fy nghyfeiriad at, er enghraifft, yr angen am Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, neu ESOL, gwersi personol ac ar-lein ac am weithredu i gefnogi trosglwyddo sgiliau a chymwysterau, rhywbeth a drafodwyd gennym hefyd yn gynharach, pa ddiweddariad gallwch ei ddarparu ar y materion hyn, o ystyried eich ymateb yna bod gennych gyfarfodydd bob pythefnos ar Wcráin, wedi'u cadeirio gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol?

Rwy'n cyfeirio at y ddogfen a anfonais atoch, a gynhyrchwyd gan y Ganolfan Cefnogi Integreiddio Pwylaidd, neu PISC, yn Wrecsam, yn manylu ar eu hymdrechion dyngarol i helpu ffoaduriaid o Wcráin a'r cynnig am gefnogaeth gyfunol a chynaliadwy i bobl Wcráin, gan gynnwys adeiladu tai dros dro. Pa ymgysylltu fu rhyngoch chi neu eich swyddogion felly wedi hynny â nhw ynglŷn â hyn?

Yn ehangach, o ystyried bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 4,833 o geisiadau fisa gan bobl o Wcráin wedi cael eu cyflwyno gyda Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr, bod 4,564 wedi eu cyhoeddi gyda Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr, a bod 2,904 o'r bobl sydd wedi cyrraedd y DU wedi cael Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr, beth yw'r sefyllfa bresennol o ran saib ceisiadau newydd yng Nghynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin?

Mae fy nghyd-Aelod Russell George a minnau wedi cael e-bost yn dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Rwy'n gofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru gyda phrosiect treialu i ddefnyddio unedau tai gwag hirdymor i ddarparu llety tymor byr i ffoaduriaid o Wcráin, gan ddefnyddio model tai oes fer o'r math a weithredwyd mewn mannau eraill ers y 1980au.' Pwy yw'r person gorau y dylid cyfeirio'r anfonwr ato ynghylch hyn?

Yn olaf, rwyf wedi eich cyfeirio chi o'r blaen at y rhan a chwaraewyd gan grwpiau ffydd yn rhaglen gyswllt Wcráin i gefnogi Wcreiniaid sy'n cyrraedd y gogledd. Yn y cyd-destun hwn, pa ymgysylltu ydych chi wedi'i gael â'r gymuned Gatholig ynglŷn â'i hymateb i'r ymosodiad anghyfreithlon ac annynol ar Wcráin, gan gynnwys apêl ddyngarol a thîm ymateb brys pwrpasol elusen yr Asiantaeth Gatholig ar gyfer Datblygu Tramor i gyrraedd pobl sydd fwyaf anghenus, ac asiantaeth gweithredu cymdeithasol domestig cynhadledd yr esgobion, Caritas Social Action Network, neu CSAN, sydd, gyda'i bartneriaid, yn cefnogi adleoli ffoaduriaid ar draws y DU gydag esgobaethau ac asiantaethau'r eglwys yn cynorthwyo'r ymdrechion cydlynu? Diolch.