Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 25 Hydref 2022.
Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch am y cwestiynau pwysig yna. Rwy'n credu, yr hyn rwy'n ceisio ei amlygu, am wn i, yw ein bod ni'n gweithio, nid yn unig gyda ein gwesteion Wcreinaidd ond ein partneriaid awdurdod lleol i ddod o hyd i ffordd y gallwn ni sicrhau y gallwn ddarparu'r gefnogaeth gychwynnol honno drwy ein cynllun arch-noddwr yn ein canolfannau croeso ledled Cymru, a hefyd, eu helpu gyda'u hymgysylltiad, oherwydd bod hyn yn ymwneud â chydweithio mewn cydweithrediad i symud, fel y dywedwch chi, mewn ffordd briodol i'w galluogi nhw i symud ymlaen i fyw'n fwy annibynnol.
Felly, mae rhai o'n gwesteion yn dweud, 'Gawn ni gyfrannu?', oherwydd maen nhw'n gweld y croeso yma. Maen nhw wedi dod, nid oedden nhw'n gorfod cael eu paru—maen nhw wedi dod yn llythrennol ac wedi cael eu croesawu i ganolfan groeso neu, yn wir, i lety cychwynnol dros dro arall, ac maen nhw'n dweud, 'Rydym ni eisiau bod yn annibynnol'. Os gallan nhw, wrth gwrs, wedyn gael gwaith, swyddi, maen nhw'n defnyddio eu sgiliau ac, hefyd, yn dechrau—oherwydd bod gennym ni bob asiantaeth wrth law i'w helpu i gael mynediad at fudd-daliadau fel credyd cynhwysol, maen nhw'n barod ac yn dymuno gwneud cyfraniad. Ond, hefyd, rydym ni'n ystyried y ffaith y byddai'n well ganddyn nhw, efallai, droi at hunan-arlwyo o ran deiet a mynediad at fwyd a darpariaeth briodol ar gyfer eu bywydau, yn hytrach na dibynnu ar drefniant penodol neu fwydlen sydd wedi ei darparu mewn canolfan groeso efallai.
Wrth gwrs, pan gychwynnom ni ar hyd y llwybr hwn, a dyna pam yr ydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'n cyd-Weinidogion yn Llywodraeth yr Alban, roeddem ni'n arch-noddwr i ddarparu'r croeso hwnnw, y gefnogaeth gofleidiol honno. Mae hynny'n cynnwys y gefnogaeth sydd, yn amlwg, yn hollbwysig, wrth asesu anghenion iechyd, anghenion addysgol y plant, ac rwyf wedi siarad am y gallu i gael budd-daliadau a hefyd sgiliau a swyddi. Felly, rydych chi'n gwybod, drwy ein gwefan a thrwy ein gwaith, fod gennym gyngor gyrfaoedd, hyfforddiant a chymorth cyflogaeth personol am ddim gan Cymru'n Gweithio ar gyfer pob—wrth gwrs, maen nhw'n dod i bob canolfan groeso, felly mae pobl yn cael eu hannog a'u cefnogi i mewn i fyd gwaith.
Mae llawer o'n gwesteion Wcreinaidd wedi symud ymlaen yn annibynnol, ond mae pwysau gwirioneddol o ran faint o dai sydd ar gael, o ran y cyfle i symud ymlaen hwnnw. Felly, rydym ni eisiau osgoi unrhyw fygythiad o ddigartrefedd—rydym ni eisiau osgoi hynny. Gwyddom fod pob gwestai Wcreinaidd sy'n dod drwy'r llwybr uwch-noddwr, neu, yn wir, y rhai sy'n lletya ac yn cefnogi, a chyllid—ariannu Cyfiawnder Tai Cymru, Asylum Justice Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a'r Groes Goch Brydeinig i sicrhau eu bod nhw i gyd yn cymryd rhan i gefnogi'r ffoaduriaid sydd naill ai gyda'r rhai sy'n lletya neu yn ein canolfannau croeso.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw diolch am eich cydnabyddiaeth bod angen i ni gael ymateb gan Lywodraeth y DU, nid yn unig o ran y £350, a chynyddu hwnnw ar gyfer y rhai sy'n lletya, ond hefyd y ffaith ein bod ni wedi galw arnyn nhw i roi mwy o gymorth ar gyfer taliadau disgresiwn at gostau tai ac am lwfansau tai lleol, fel bod awdurdodau lleol yn gallu defnyddio'u disgresiwn i helpu pobl i symud ymlaen i'r sector rhentu preifat. Yn wir, fel yr wyf wedi sôn, mae'r llythyr hwn gan elusennau ffoaduriaid yn Lloegr, mewn gwirionedd yn dweud eu bod yn helpu teuluoedd sy'n ffoaduriaid i ddod o hyd i gartrefi—dyma'r llythyr at Brif Weinidog y DU—cynllun rhentu ar gyfer ffoaduriaid sy'n cyrraedd drwy gynllun sy'n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth. Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn defnyddio eu disgresiwn, eu pwerau, er mwyn ceisio helpu pobl i gael llety hirdymor.