6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:01, 25 Hydref 2022

Yn olaf, rŷch chi'n cyfeirio yn eich datganiad nad ydych chi wedi cael unrhyw ymgysylltiad ag olynydd yr Arglwydd Harrington, a oedd yn Weinidog ffoaduriaid yn Llywodraeth San Steffan, ac rwyf am roi ar gofnod farn Plaid Cymru fod hyn yn gwbl warthus ac yn gwbl anfaddeuol yng ngolau'r argyfwng sydd yn wynebu'r miloedd o ffoaduriaid yng Nghymru sydd mewn sefyllfa mor anodd wrth geisio ymgartrefu mewn gwlad newydd. Mae nifer ar ymyl dibyn brawychus yn sgil y ffaith fod nifer fawr iawn o'r rhai sydd wedi dod yma drwy gynllun Cartrefi i Wcráin yn agos nawr at ddiwedd y cytundeb chwe mis â'r rhai sydd wedi rhoi llety iddynt.

Gyda'r argyfwng costau byw a heb gynnydd yn y taliad misol o £350, bydd hi'n anodd iawn nawr i nifer o bobl ymestyn y croeso hwnnw. Mae'n warthus fod Torïaid San Steffan yn poeni cyn lleied am gefnogi pobl Wcráin. Weinidog, gan ein bod ni yma yng Nghymru yn genedl noddfa, a oes modd defnyddio taliadau costau byw eraill i gefnogi'r cytundebau hyn er mwyn atal embaras, straen, caledi a digartrefedd? Diolch.