1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 26 Hydref 2022.
3. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i sut y gall helpu awdurdodau lleol i ddyfeisio cynlluniau wrth gefn i liniaru costau ynni uwch? OQ58616
Mae costau ynni cynyddol yn peri cryn bryder i gymunedau lleol, ac rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i roi camau ar waith i atal y cynnydd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ar draws y sector cyhoeddus drwy fuddsoddi mewn sgiliau, effeithlonrwydd ynni, ymchwil, arloesi, datgarboneiddio a dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru.
Diolch, Weinidog. Mae Huw eisoes wedi sôn am y cyfarfod ar y cyd y gwnaethom ni fel Aelodau Gorllewin De Cymru ei fynychu gydag arweinwyr cynghorau ar draws ein rhanbarth, a hoffwn ddiolch i Mike Hedges am drefnu'r cyfarfod hwnnw. Mae realiti’r sefyllfa'n enbyd. Rydym yn wynebu toriadau mawr i wasanaethau cynghorau. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu, er enghraifft, her ariannol ddigynsail dros y blynyddoedd nesaf, ac maent yn amcangyfrif y gallai fod angen gostyngiadau gwariant o hyd at £20 miliwn yng nghyfnod ariannol 2023-24 er mwyn cydbwyso'r gyllideb. Nawr, er fy mod yn byw mewn gobaith y bydd y gyllideb sydd bellach wedi'i gohirio yn darparu rhywfaint o ryddhad—rwy'n hoffi meddwl fy mod yn optimistaidd bob hyn a hyn—pa waith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud gydag awdurdodau lleol i'w helpu i reoli eu cyllidebau, ond hefyd i helpu ein darparwyr trydydd sector a sefydliadau gwirfoddol i reoli eu cyllidebau hwythau? Mae'n gyfnod anodd, mae pethau ar fin mynd yn anoddach, ond mae adegau fel hyn hefyd yn galw am gydweithio ar bob lefel i ddiogelu ein hetholwyr.
Rwy'n ategu eich diolch i Mike Hedges am drefnu’r drafodaeth. Gallaf ddweud ei bod yn drafodaeth a gafodd lawer o effaith, a hynny nid yn unig ar sail y papur trefn ar gyfer y cwestiynau heddiw; gwelaf fod y trafodaethau a gawsoch gyda llywodraeth leol wedi cael effaith wirioneddol o ran rhoi syniad clir i chi o'r mathau o bwysau sydd arnynt a'r bylchau y maent yn ceisio mynd i'r afael â hwy yn eu cyllidebau. Gwn eich bod yn arbennig o bryderus am gost ynni, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol. Mae'r awdurdodau lleol eu hunain mewn gwell sefyllfa yn y flwyddyn ariannol hon yn yr ystyr fod y rhan fwyaf ohonynt yn prynu eu hynni gan Wasanaeth Masnachol y Goron, felly maent wedi'u hamddiffyn yn y flwyddyn ariannol hon rhag prisiau ynni byd-eang anwadal. Ond ar hyn o bryd rydym yn asesu'r effaith ar brisiau a chyllidebau ar gyfer 2023-24, ac mae ein gweithwyr caffael proffesiynol yn Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio gyda chyflenwyr a Gwasanaeth Masnachol y Goron i gefnogi awdurdodau lleol fel y gallant gynllunio gyda rhywfaint o hyder o leiaf o ran y ffigurau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Gan fod llawer o gontractau awdurdodau lleol eisoes wedi’u cytuno, credaf ein bod yn llai pryderus eleni, fel y dywedaf, ond mae gennym bryderon gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn nesaf, a dyma pam ei bod yn wirioneddol bwysig fod adolygiad ynni Llywodraeth y DU yn cael ei gwblhau'n gyflym, fel y gallwn roi'r hyder hwnnw, ond hefyd ei fod o ddifrif yn ystyried yr effaith ar lywodraeth leol ac ar y trydydd sector, fel y nodwyd gennych, ac yn caniatáu iddynt barhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol y maent yn eu darparu. Rwy’n siŵr fod pob un ohonom wedi cael trafodaethau ynglŷn â chost dim ond cadw’r goleuadau ymlaen mewn ysgolion, er enghraifft, sydd wedi mynd drwy’r to ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Felly, gwn fod y trafodaethau hynny’n fyw, a hoffwn roi sicrwydd i chi fod ein tîm caffael yn rhan o hynny.
Weinidog, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am bennu cyllidebau ysgolion, ac ynni yw un o’r costau mawr y mae ein hysgolion yn eu hwynebu. Mewn llawer o ysgolion, gwelwn hen foeleri mawr sy'n ddrud iawn i'w rhedeg. Pa asesiadau a wnaethoch gydag awdurdodau lleol o’r costau sy’n wynebu ysgolion bellach wrth inni edrych tua'r chwe mis a’r 12 mis nesaf? A pha fesurau sydd dan ystyriaeth gennych i sicrhau y gall ein hysgolion gadw’n gynnes? Diolch.
Wel, wrth gwrs, y peth gorau a allai ddigwydd, mewn perthynas â chadw ysgolion yn gynnes, fyddai i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy. [Torri ar draws.] Rwy'n clywed y Ceidwadwyr yn griddfan yn uchel, ond dyna fyddai'r ateb gorau i sicrhau bod yna bris fforddiadwy am ynni mewn ysgolion. Ni fyddai hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru'n ymwrthod â'i chyfrifoldeb. Nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw camu i'r adwy mewn perthynas â phrisiau ynni. Ni allai Llywodraeth Cymru gyflwyno treth ffawdelw, hyd yn oed pe bai eisiau gwneud hynny, oherwydd nid oes gennym y pwerau i wneud hynny. Mae hwnnw'n rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU fod yn ei wneud ar hyn o bryd.
Yn ffodus, rydym wedi cael trafodaethau am gronfeydd wrth gefn yn gynharach yn y sesiwn gwestiynau hon, ac mae cronfeydd wrth gefn mewn ysgolion yn edrych yn iach. Felly, bydd rhai ysgolion yn gallu gwneud buddsoddiadau ac yn gallu ystyried sut i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Wedi dweud hynny, rwy'n ymwybodol iawn nad yw'r sefyllfa bositif mewn perthynas â chronfeydd wrth gefn mewn ysgolion yn unffurf ledled Cymru, ac mae yna ysgolion nad oes ganddynt y cronfeydd wrth gefn sylweddol hynny y byddant eisiau dibynnu arnynt.
Mae cwestiwn 4 [OQ58605] wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 5, Heledd Fychan.