1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 26 Hydref 2022.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r arweinyddiaeth etholedig newydd yng Nghyngor Sir Fynwy? OQ58622
Cynhaliais gyfarfod rhagarweiniol gyda'r arweinydd newydd ym mis Awst. Ac rwyf hefyd yn cyfarfod â'r holl arweinwyr yn rheolaidd drwy ein cyfarfodydd bob pythefnos gyda bwrdd gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac ar wahân ar faterion fel diwygio trethiant. Rwyf hefyd wedi trafod heriau ariannol llywodraeth leol gyda dirprwy arweinydd sir Fynwy drwy’r is-grŵp cyllid.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod Dwyrain Casnewydd yn cynnwys ardal Glannau Hafren, sy’n rhan o ardal Cyngor Sir Fynwy. Roeddwn yn falch iawn o weld Llafur yn ennill rheolaeth ar y cyngor yno ym mis Mai, am y tro cyntaf ers canol y 1990au. Gwn fod gan yr arweinydd newydd, Mary Ann Brocklesby, a’i chabinet gynlluniau uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r bwlch fforddiadwyedd mewn tai yn sir Fynwy. Mae’r ardal wedi dioddef yn sgil tanfuddsoddi hanesyddol mewn tai fforddiadwy, ac wedi bod yn or-ddibynnol ar landlordiaid preifat. Yn ddiweddar, cymeradwyodd y cyngor Llafur newydd gynlluniau ar gyfer tai fforddiadwy 100 y cant ar hen safle ysgol Cil-y-coed, a Chymdeithas Tai Sir Fynwy oedd y cynigydd a ffafrir. Mae hyn yn dangos uchelgais a gwaith cyngor newydd sir Fynwy, Weinidog. Ond tybed sut y gallwch chi fel Gweinidog cyllid, gan weithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, weithio'n agos gyda'r arweinyddiaeth newydd, i'w cefnogi yn eu huchelgeisiau am fwy o dai fforddiadwy yn yr ardal hon?
Rwy'n ddiolchgar i John Griffiths am godi’r mater hwn, ac rwy'n cydnabod yr hyn y mae’n ei ddweud o ran y ffaith bod prisiau eiddo'n uwch na’r cyfartaledd yn sir Fynwy, ac yn amlwg, mae cysylltiadau rhwng cyfleoedd gwaith a phrisiau tai uwch. Ond gall prisiau eiddo gael eu hystumio, wrth gwrs, gan berchnogaeth ail gartrefi, a hefyd gan nifer sylweddol o lety gwyliau tymor byr mewn ardal, a dyna pam fod y gwaith a wnawn mewn partneriaeth â Phlaid Cymru i fynd i’r afael â sefyllfa ail gartrefi yn wirioneddol bwysig, a chredaf y bydd yn cael effaith yn sir Fynwy.
Ond wrth gwrs, mae'n bwysig fod tai cymdeithasol o ansawdd da a thai fforddiadwy yn y sector rhentu preifat ar gael yn yr ardaloedd hyn, a chynlluniau fel yr hyn rydych wedi'i ddisgrifio, y gwn ei fod bellach wedi'i gadarnhau gan weinyddiaeth newydd Cyngor Sir Fynwy, yw’r union fath o uchelgais y mae’r Llywodraeth Cymru hon am ei weld er mwyn diwallu anghenion ein dinasyddion. Felly, gallaf roi sicrwydd i John Griffiths y byddaf i a’m cyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn bendant yn awyddus i gefnogi sir Fynwy yn eu huchelgeisiau.
Diolch i John Griffiths am godi hyn, a chroesawaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio o'r newydd ar sir Fynwy; yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny am 13 mlynedd pan oeddwn yn arweinydd. Ac rwyf hefyd yn falch iawn fod y weinyddiaeth Lafur newydd yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau a roddwyd ar waith gennym ni, felly diolch iddynt.
Weinidog, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi rhoi pwyslais cyson, drwy gydol fy amser mewn llywodraeth leol, ac ers imi fod yma, ar bwysigrwydd ariannu teg, ac rwyf wedi herio’r fformiwla ariannu bresennol sawl gwaith. A gwn mai dim ond ddoe y dywedodd y Prif Weinidog, os yw llywodraeth leol yn dymuno cael newid i'r fformiwla, os byddant yn gofyn amdano, y byddwch yn gwneud hynny. Nawr, gwyddom na fydd tyrcïod yn pleidleisio dros y Nadolig, ac mae gan sawl arweinydd hyd at £208 miliwn o gronfeydd wrth gefn, tra bo gan eraill £30 miliwn o gronfeydd wrth gefn yn unig. Nid ydynt yn mynd i bleidleisio dros rywbeth sy'n disodli hynny. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, a wnewch chi gymryd y cam cyntaf a galw comisiwn annibynnol ar y fformiwla ariannu? Gwyddom mai dim ond un gacen sydd, a'i bod yn annhebygol o fynd yn fwy, ond mae rhai pobl yn cael tafelli enfawr, ac mae eraill yn cael briwsion. Nid yw hynny’n deg, a chyfrifoldeb y Llywodraeth hon, gan weithio gydag awdurdodau lleol, yw newid hynny. A wnewch chi hynny? A wnewch chi alw'r comisiwn hwnnw?
Wel, Lywydd, mae’r cyllid refeniw craidd a ddarparwn i awdurdodau lleol bob blwyddyn yn cael ei ddosbarthu yn ôl angen cymharol, gan ddefnyddio fformiwla sy'n ystyried llwyth o wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol yr awdurdodau hynny. Ac nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl fod unrhyw awdurdod, neu grŵp o awdurdodau, sydd ag unrhyw nodweddion daearyddol neu gymdeithasol penodol o dan anfantais yn sgil y fformiwla ariannu llywodraeth leol honno. Nid oes a wnelo hyn ag agenda wleidyddol. Nid oes a wnelo hyn â dylanwad gwleidyddol, a chaiff ei lywio gan ddata. Ac mewn gwirionedd, caiff y fformiwla ei gosod gan 70 o wahanol ddangosyddion o'r angen i wario, a chaiff y rhan fwyaf o hynny, sef 72 y cant o’r cyllid, ei ddiweddaru’n flynyddol. Ac wrth gwrs, i sicrhau lefel o annibyniaeth, mae gennym aelodau annibynnol yn yr is-grŵp dosbarthu i sicrhau nad oes tuedd o blaid nac yn erbyn buddiannau unrhyw awdurdod unigol.