Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 26 Hydref 2022.
Un ddarpariaeth statudol hanfodol yw gwasanaethau cymdeithasol, ac, yn benodol, gofal. Gwyddom fod problemau dirfawr o ran recriwtio gofalwyr. O’r herwydd, mae mwy a mwy o unigolion yn dod yn ofalwyr di-dâl er mwyn gofalu am eu hanwyliaid, ac yn wynebu caledi ariannol o’r herwydd. A oes unrhyw drafodaethau wedi bod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o ran ymestyn y cymorth ariannol costau byw i bob gofalwr di-dâl, nid dim ond y 10 y cant sydd yn derbyn lwfans gofalwyr ar y funud? Yn bellach, a oes modd gwneud mwy i hyrwyddo ei bod hi’n bosibl i ofalwyr di-dâl dderbyn taliad uniongyrchol i ddarparu gofal, hyd yn oed os ydynt yn byw ar yr un aelwyd, os nad yw’n bosibl canfod gofal amgen? Mae nifer o deuluoedd o dan yr argraff nad yw hyn yn bosibl, ond y gwir amdani yw bod hawl gan awdurdodau lleol i ganiatáu hyn gyda thystiolaeth briodol. Felly, a oes trafodaethau wedi bod gyda'r gymdeithas llywodraeth leol hefyd am hyn?