Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 26 Hydref 2022.
Gwn fod y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol yn bresennol yn y cyfarfod diweddar am y pwysau cyllidebol sy'n wynebu arweinwyr awdurdodau lleol, a llwyddasant i ddechrau'r trafodaethau, o leiaf, ar y pwysau a'r pryderon penodol ynghylch gofal cymdeithasol. Ond rwy'n credu bod y pwynt a wnewch yn gysylltiedig â'r ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' sydd ar y gweill gennym ar hyn o bryd, oherwydd, fel y dywedwch, ceir digonedd o bobl nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn gallu hawlio lwfans gofalwyr. Ceir llawer o bobl nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn gallu hawlio taliadau uniongyrchol, felly mae'n bwysig ein bod yn ymgymryd â chymaint o waith ag y gallwn i sicrhau bod pobl yn hawlio popeth y mae ganddynt hawl iddo, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Felly, byddwn, fe fyddwn yn dyblu ein hymdrechion yn hynny o beth.