Polisi Treth

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:10, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae gan ein ffrindiau yn yr Alban fwy o ysgogiadau at eu defnydd na ni. Mae ganddynt system dreth incwm flaengar, a gyflwynwyd gan Lywodraeth SNP Yr Alban, sy'n sicrhau bod y rhai ar incwm is yn talu llai o dreth nag mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, gan gefnogi gwasanaethau cyhoeddus cryfach tra'u bod yn diogelu'r rhai ar incwm is; system dreth decach lle mae'r rhai sydd â'r ysgwyddau lletaf yn ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r pwysau. Rwy'n gobeithio, Weinidog, y byddwch yn codi hyn gyda'ch cymheiriaid, gyda Chabinet yr wrthblaid yn San Steffan, fel y bydd gan Gymru hefyd bwerau i amrywio'r bandiau treth. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno na ddylem gael ein gadael ar ôl gan ein ffrindiau Albanaidd wrth iddynt greu cenedl decach yno?