Polisi Treth

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:11, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n wir fod gennym system wahanol, ac wrth gwrs, dim ond yn 2016 y cafodd ein system ni ei chytuno. Ers ychydig flynyddoedd yn unig y buom yn casglu cyfraddau treth incwm Cymru, felly ar y cychwyn o leiaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig gadael i'r system ymsefydlu, ond hefyd er mwyn deall beth fyddai'r goblygiadau o gael system fandio fwy blaengar, fel y dywedwch. Felly, mae'n drafodaeth ddiddorol y dylem fod yn ei chael, gan ystyried hefyd beth fyddai'r goblygiadau i'r derbyniadau treth cyffredinol yma yng Nghymru a pha opsiynau a allai fod ar gael i ni. Felly, wyddoch chi, mae gwaith yn mynd rhagddo i ystyried dyfodol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ysgogiadau cyllidol, ac rwy'n credu bod hynny'n chwarae rhan dda yn y trafodaethau hynny.