1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 26 Hydref 2022.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllido awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru? OQ58621
Byddaf yn parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru drwy gynhyrchu fformiwla ddosbarthu dryloyw a theg ar gyfer y setliad llywodraeth leol ar y cyd â'n partneriaid llywodraeth leol.
Diolch, Weinidog. Mewn llythyr diweddar, gofynnodd arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i mi bwyso am fwy o adnoddau ychwanegol er mwyn galluogi'r cyngor i barhau i gefnogi ei gymunedau drwy'r argyfyngau presennol. Mae'n cymharu'r argyfwng costau byw presennol ag argyfwng COVID, pan ddangosodd llywodraeth leol dro ar ôl tro sut y mae mewn sefyllfa unigryw i ymateb i anghenion lleol. Ond mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn amcangyfrif eu bod yn wynebu pwysau heb eu cyllido o £10 miliwn yn ystod y flwyddyn hon, a £24 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae effaith barhaus y pandemig a'r argyfwng economaidd presennol wedi arwain at gynnydd digynsail yn y galw ar wasanaethau. Er enghraifft, mae'r nifer sy'n manteisio ar wasanaeth opsiynau tai Cyngor Castell-nedd Port Talbot 400 y cant yn uwch na'r nifer cyn y pandemig, mae cysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol plant 300 y cant yn uwch, a mynychais yr un cyfarfod CLlLC rhanbarthol yr wythnos diwethaf, lle cafodd yr un sefyllfa ddiflas ei hailadrodd a'i hamlinellu. Felly, sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu sicrhau bod ein hawdurdodau lleol yn gallu cynnal gwasanaethau craidd? Gwyddom fod drws Rhif 10 Stryd Downing wedi'i gau'n dynn yn wyneb Cymru, felly pa ateb y bydd arweinwyr cynghorau Gorllewin De Cymru yn ei gael o Fae Caerdydd? Nid yw codi'r dreth gyngor yn opsiwn blaengar, felly pa ffyrdd eraill sydd yna i godi'r refeniw angenrheidiol?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, ac rwy'n cydnabod y tebygrwydd rhwng argyfwng y pandemig a'r argyfwng costau byw. Yr hyn sy'n wahanol, wrth gwrs, yw bod y pandemig wedi denu arian ychwanegol sylweddol i'n helpu i'w reoli, ond nid ydym wedi cael cyllid ychwanegol sylweddol i'n helpu i reoli'r argyfwng costau byw. Ac rwyf am ei gwneud yn glir iawn ein bod wedi dyrannu'r holl gyllid sydd ar gael. Felly, byddwch wedi gweld ein cyllideb eleni: roedd gennym gronfa fach wrth gefn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Y flwyddyn nesaf, rydym wedi dyrannu popeth, felly byddwn yn rheoli unrhyw wariant ychwanegol drwy gronfa wrth gefn Cymru a honno'n unig, ac mae'r un peth yn wir am y flwyddyn ganlynol.
Felly, mae gennym orwariant ar y rhaglen cyfalaf, sy'n amlwg dan lawer o bwysau yn y lle cyntaf, a phan wnaethom osod honno, nid oeddem yn sylweddoli y byddai Llywodraeth y DU yn cymryd £30 miliwn yn ôl er mwyn cefnogi arfau ar gyfer Wcráin. Felly, mae'r gyllideb wedi'i hymestyn yn eithriadol; nid oes cyllid ychwanegol sylweddol i'w ddyrannu, felly mae'n rhaid i ni obeithio bod Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn yn ei adolygiad o wariant—mae'n ddrwg gennyf, yn ei gyllideb yn yr hydref pan fydd yn ymddangos—ac yn darparu'r cyllid ychwanegol y mae awdurdodau'n galw amdano, ac mae'n rhaid imi ddweud, y mae'r gwasanaeth iechyd hefyd yn galw amdano yn y sefyllfa hon. Felly, rydym yn aros am hynny gyda diddordeb. Mae'n drueni ei fod wedi cael ei wthio'n ôl, oherwydd mae hynny wedi gwneud y gwaith o gynllunio ein cyllideb ein hunain yn llawer anos, ac mae'n ei gwneud yn anos wedyn i ni ddarparu'r math o sicrwydd y mae arweinydd Castell-nedd Port Talbot, ac arweinwyr eraill, yn ei geisio gennym ar hyn o bryd.