1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 26 Hydref 2022.
9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â threfniadau ariannu ar ôl yr UE? OQ58617
Mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon mewn perthynas ag ariannu ar ôl yr UE. Mae eu cynlluniau diffygiol a thoriad ariannol o £1.1 biliwn yn cael effaith ddifrifol ar ystod o sectorau yn ogystal â swyddi a thwf. Rwyf wedi codi hyn dro ar ôl tro gyda Gweinidogion y DU a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Dywedodd Pwyllgor Cyllid y Senedd y mis hwn fod Cymru mewn perygl o fod ar ei cholled yn ariannol os yw Llywodraeth y DU yn methu cydweithio â Llywodraeth Cymru ar gyllid ar ôl yr UE. Mae hynny er gwaethaf yr addewidion Torïaidd niferus na fyddai Cymru yn derbyn yr un geiniog yn llai o ganlyniad i Brexit. Yn amlwg, mae'n rhaid inni sicrhau'r cydweithrediad hwnnw gan Lywodraeth y DU a rhaid i'r Torïaid anrhydeddu eu haddewid. Ond a ydych yn cytuno â mi, Weinidog, fod Cymru eisoes ar ei cholled? Mae cyn-Lywodraethwr Banc Lloegr wedi tynnu sylw at y ffaith bod economi Prydain yn 90 y cant o faint economi'r Almaen yn 2016. Erbyn hyn mae'n llai na 70 y cant. Ac mae dadansoddiad gan y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd yn cyfrifo bod Brexit wedi arwain at ostyngiad o 16 y cant mewn masnach o'r DU i'r UE. Felly, yn ogystal â setliad cyllid teg i Gymru, a ydych yn cytuno bod angen ailadeiladu cysylltiadau economaidd Prydain gyda'n partner masnachu mwyaf a lleihau rhwystrau i fasnachu, a hynny ar frys?
Ydw, rwy'n cytuno â'r pwyntiau hynny, oherwydd yn fy marn i mae effaith Brexit wedi cael ei guddio'n fawr gan y pandemig ac yn awr gan yr argyfwng costau byw. Rwy'n credu bod yr enghraifft a nodoch chi, sy'n cymharu ein sefyllfa gyda'r Almaen, yn dangos y difrod y mae Brexit wedi'i wneud ac y bydd yn parhau i'w wneud oni bai bod Llywodraeth y DU yn mabwysiadu ymagwedd wahanol tuag at fasnachu gyda'n partneriaid masnachu pwysicaf.
Rwy'n credu bod y mater ynglŷn â chyllid newydd yr UE yn un pwysig hefyd. Fe gawsom addewid na fyddem geiniog yn waeth ein byd. Wel, mae hynny'n wir; rydym £1.1 biliwn yn waeth ein byd yn sgil y diffyg cyllid Ewropeaidd sydd ar gael. Mae'r gronfa ffyniant gyffredin wedi bod yn fethiant llwyr fel cyllid newydd. Yn ogystal â chael bwlch ariannu, nid oes unrhyw gyllid wedi dod i Gymru eto, ond wrth gwrs pe baem yn dal i fod yn rhan o'r UE byddai'r rhaglenni UE hynny eisoes wedi dechrau ym mis Ionawr 2021. Ac nid yn unig hynny; byddent wedi bod yn rhaglenni dros nifer o flynyddoedd, a fyddai wedi caniatáu defnydd o'r cyllid hwnnw mewn modd mwy strategol, yn hytrach nag ariannu hoff brosiectau bach ar draws Cymru a benderfynwyd gan Weinidogion yn San Steffan. [Torri ar draws.] Rwy'n clywed y Ceidwadwyr y tu ôl i mi, ond rwy'n ei chael hi'n eithaf chwerthinllyd fod unrhyw un yn dal i fod yn fodlon amddiffyn y sefyllfa bresennol, lle rydym yn waeth ein byd yn ariannol, a'n henw da ar draws y byd wedi'i ddifrodi gan y Blaid Geidwadol, ac na fydd modd ei adfer am gryn dipyn o amser.
Diolch i'r Gweinidog cyllid.