Part of the debate – Senedd Cymru ar 26 Hydref 2022.
Cynnig NDM8113 fel y'i diwygiwyd
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022.
2. Yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc.
3. Yn nodi sefydlu Bwrdd y Rhaglen Strôc yn ddiweddar i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau ac i sicrhau canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru o ran strôc.