10. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:05 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:05, 26 Hydref 2022

Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Does yna ddim cais i ganu'r gloch. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 6 ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil gan Aelod, sef y Bil addysg awyr agored (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Sam Rowlands. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, yn ymatal un, yn erbyn 24. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod—Bil Addysg Awyr Agored (Cymru): O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 3819 Eitem 6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Addysg Awyr Agored (Cymru)

Ie: 25 ASau

Na: 24 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Wedi ymatal: 1 AS

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:08, 26 Hydref 2022

Yr eitem nesaf yw'r bleidlais ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar Fil manteisio ar fudd-daliadau. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, yn enw Sioned Williams. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, 19 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil Manteisio ar Fudd-daliadau: O blaid: 30, Yn erbyn: 1, Ymatal: 19

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 3820 Eitem 7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Manteisio ar Fudd-daliada

Ie: 30 ASau

Na: 1 AS

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Wedi ymatal: 19 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:09, 26 Hydref 2022

Eitem 9 yw'r eitem nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar strôc yw'r eitem yma. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—strôc. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 3821 Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strôc. Cynnig heb ei ddiwygio.

Ie: 14 ASau

Na: 36 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:10, 26 Hydref 2022

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—strôc. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 36, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 3822 Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths

Ie: 36 ASau

Na: 14 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:10, 26 Hydref 2022

Y bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio.

Cynnig NDM8113 fel y'i diwygiwyd

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal ar 29 Hydref 2022.

2. Yn cydnabod yr ymateb brys sydd ei angen i atal perygl i fywyd pobl sy'n dioddef strôc.

3. Yn nodi sefydlu Bwrdd y Rhaglen Strôc yn ddiweddar i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau ac i sicrhau canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru o ran strôc.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:10, 26 Hydref 2022

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—strôc. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 3823 Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strôc. Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 50 ASau

Absennol: 10 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: A-Z fesul cyfenw